Dyddiad Cau: 10/10/2024
Cyfeirnod: REQ105613
37 awr / Parhaol
£40,540 *
Hybrid
*Mae’r gwerthoedd cyflog yn pro-rata.
Ynglŷn â’r rôl
Mae prosiect e-sgol wedi bod yn rhedeg ers Medi 2018, gyda’r bwriad arloesol o gefnogi ysgolion i gydweithio ar fodel hybrid o addysgu i ehangu’r ddarpariaeth sydd ar gael i ddisgyblion ôl-14. Tros y blynyddoedd diwethaf, mae’r prosiect cyffrous hwn wedi ehangu i bob ardal o Gymru ac yn cydweithio bellach gyda nifer o ysgolion ledled y wlad.
Bydd Is Arweinydd e-sgol De Cymru yn gyswllt angenrheidiol i ysgolion De Cymru ac yn cynnig hyfforddiant a chymorth i’r athrawon a’u dysgwyr. Byddent yn gweithio’n agos gydag Arweinydd De Cymru e-sgol i sicrhau seilwaith gadarn i’r prosiect. Hefyd, byddant yn cydweithio gydag Arweinwyr e-sgol i edrych am gyfleoedd newydd ac arloesol i ehangu darpariaeth e-sgol ymhellach.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- angerddol dros addysgu digidol
- meddu ar brofiad arwain yn y sector addysg
- meddu ar sgiliau TGCh rhagorol
- meddu ar brofiad o ddarparu hyfforddiant i gynulleidfaoedd amrywiol
- ymroddedig i sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd eu potensial
Bydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I’ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid:Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o’ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi:Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cyngor Sir Ceredigion
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 10 Hydref 2024