Math o Gontract: Parhaol
Patrwm gweithio: Llawnamser
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £71,019 – £75,813 y flwyddyn
Lleoliad: Gweithio Hybrid (Pen-y-bont ar Ogwr)
A ydych chi’n teimlo’n angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac am sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, y gellir troi at rywun am gymorth drwy system gwyno annibynnol?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn awyddus i recriwtio Pennaeth Cwynion Gwasanaethau Cyhoeddus i arwain a rheoli timau sy’n darparu gwasanaeth cwynion ymatebol o ansawdd uchel i aelodau o’r cyhoedd ar gyfer triniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.
Gan weithio mewn rôl uwch fel aelod o Dîm Rheoli Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, byddwch yn:
- chwarae rhan strategol allweddol drwy arwain y timau gwaith achos a chyflawni Nodau Strategol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ddarparu cyfiawnder gydag effaith gadarnhaol i bobl a gwasanaethau cyhoeddus, a gwella hygyrchedd ein gwasanaeth
- arwain gwaith i ddatrys problemau a dod o hyd i ffyrdd arloesol o reoli a chyflawni llwyth achosion cynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran cwynion am wasanaethau cyhoeddus
Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol ar gael yma.
Darllenwch fwy am ein dull here.
Am beth rydym yn chwilio
- Profiad amlwg o arwain a rheoli, gan gynnwys arwain timau i gyflawni blaenoriaethau strategol, a pherfformiad a chanlyniadau o ansawdd uchel
- Profiad o gyfrannu at gyfeiriad a chynlluniau strategol sefydliad o fewn cyfyngiadau adnoddau ariannol
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol a gallu dylanwadu ar newid a’i weithredu yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a dylanwadu ar gyrff allanol i wella gwasanaethau cyhoeddus
Croesewir ceisiadau gan bobl ag amrywiaeth eang o brofiad ac arbenigedd, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn rolau gwaith achos neu ymchwilio mewn gwasanaethau proffesiynol/yn y sector cyhoeddus. Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais.
Beth yw’r manteision i chi?
- Cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn, gan oruchwylio’r gwaith o gyflawni canlyniadau teg a chyfiawn i gwynion
- Cyflog a buddion cystadleuol gan gynnwys Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Aelodaeth Campfa, Cynllun Arian Iechyd, Cynlluniau Prynu Gostyngol, Cynllun Oriau Hyblyg.
- Cyfleusterau rhagorol ar y safle ac offer ar gyfer gweithio gartref.
- Cwnsela allanol a chymorth iechyd galwedigaethol am ddim.
I wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, e-bostiwch y Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal i:recruitment@ombudsman.wales erbyn hanner dydd, dydd Llun 18 Tachwedd 2024.
Dilynwch y ddolen ymgeisio yma i gael gafael ar y pecyn recriwtio. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen monitro cyfle cyfartal. Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y swydd.
- Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, ddydd Llun 18 Tachwedd 2024. Ni fydd ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
- Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar 4 Rhagfyr 2024.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.
Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Ombwdsmon
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 18 Tachwedd 2024