Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Dyddiad cau: 6 Hydref 2024
Ystod cyflog: £59,857 to £69,553 y flwyddyn
Cytundeb: Llawn amser, parhaol.
Mae gennym gyfle gwych i weithiwr cyfathrebu proffesiynol a phrofiadol i arwain y Tîm Cyfathrebu. Bydd y Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, a fydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol, yn allweddol i ddatblygu a darparu dull strategol o gyfathrebu ac ymgysylltu sy’n cefnogi ymrwymiad Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) i ragoriaeth a chyflawni ei weledigaeth a’i amcanion. Mae hon yn swydd unigryw o fewn PCGC, ac yn gweithredu ar y lefel uchaf yn y sefydliad. Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar, deall, darllen ac ysgrifennu ar lefel 5 yn y Gymraeg yn ddymunol iawn. Ewch i’n gwefan am fwy o fanylion: Hysbyseb Swydd (jobs.nhs.uk)
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- NHS
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 6 Hydref 2024