Coleg Cymraeg

Penodi Aelod Bwrdd

Dyddiad cau: 30 Hydref 2024

Gwahoddir ceisiadau am unigolyn i wasanaethu ar Fwrdd y Coleg fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac Ymddiriedolwr.

 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sydd yn awyddus i ddefnyddio’i sgiliau a phrofiadau i ymuno â thîm sy’n arwain corff cynllunio cenedlaethol uchelgeisiol sydd â’r Gymraeg wrth wraidd ei bwrpas a’i weledigaeth.

Fel Aelod o’r Bwrdd, byddwch yn cymryd rhan mewn penderfyniadau allweddol ar strategaeth a pholisi’r Coleg. Byddwch yn cyfrannu at sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth gyfunol y Bwrdd er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei gyfrifoldebau ac yn cynnal safonau uchaf llywodraethu corfforaethol.

 

Rydym yn chwilio am unigolyn a fydd yn ychwanegu at y profiad sydd ar y Bwrdd eisoes o’r sector addysg drydyddol ac sydd â phrofiad o arwain yn strategol ar lefel uchel.

 

Mae’r Coleg hefyd yn awyddus i sicrhau bod gennym Fwrdd sydd yn adlewyrchu poblogaeth Cymru gyfan. Byddwn yn croesawu yn enwedig geisiadau gan bobl ddu ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Bydd y penodiad yn dechrau ym mis Tachwedd 2024 ac am gyfnod o bedair blynedd. Disgwylir ymrwymiad amser o tua diwrnod y mis ar gyfartaledd.

 

Y broses gwneud cais a dewis

Croesewir ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned. Gweithredir egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored, a gwneir penodiad ar sail teilyngdod.

 

Gofynnir i’r sawl sydd â diddordeb ymgeisio i gysylltu gyda Dr Dylan Phillips erbyn 23 Hydref 2024 (d.phillips@colegcymraeg.ac.uk i drefnu sgwrs ffôn neu MS Teams) er mwyn trafod rôl aelodau Bwrdd y Coleg ymhellach.

Dylid gwneud ceisiadau drwy gwblhau’r ffurflen gais ar wefan y Coleg.

 

Dyddiad cau:  12:00 ar ddydd Mercher, 30 Hydref 2024.

 

Dolen at y pecyn gwybodaeth

https://colegcymraeg.ac.uk/tudalennau-a-y-cynnwys/swyddi-a-chyfleoedd-eraill/

 

Enw’r cwmni neu sefydliad
Coleg Cymraeg
Dyddiad cau i ymgeiswyr
30 Hydref 2024
Coleg Cymraeg

Penodi Aelod Bwrdd

Dyddiad cau: Hydref 30
Comisiynydd y Gymraeg

Swyddog Llywodraethiant

Dyddiad cau: Hydref 11
Cyngor Gwynedd

Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd

Dyddiad cau: Hydref 10
Cristnogaeth 21

Swyddog Cyfryngau C21

Dyddiad cau: Hydref 18
Yr Eglwys yng Nghymru

Rheolwr Prosiect

Dyddiad cau: Hydref 3
NHS

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Dyddiad cau: Hydref 6
Tinopolis- Caernarfon

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Medi 27
Cyngor Sir Ceredigion

Is Arweinydd De Cymru E-sgol

Dyddiad cau: Hydref 10
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29

Cylchlythyr