Cyflog: MB2 – £35,787 – £43,758
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Reolwr Cyfathrebu.
A oes gennych ddawn i gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid? Os felly, mae gennym gyfle cyffrous i chi wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau pobl ledled Cymru.
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau gofal ledled y wlad yn cyrraedd y safonau uchaf o ran ansawdd a diogelwch. Drwy ymuno â’n tîm, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi llesiant y bobl yng Nghymru.
Fel Rheolwr Cyfathrebu, byddwch wrth wraidd ein hymdrechion i gysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid. Gan adrodd i Reolwr y Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, byddwch yn arwain strategaethau ymgysylltu arloesol sy’n llywio newid cadarnhaol yn y sector gofal tra’n sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch i bawb.
Lleoliad
Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn y swyddfa ym Merthyr, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, fel sy’n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig na’ch telerau ac amodau cytundebol. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus dalu unrhyw gostau cymudo i’w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill ar wahân i’ch man gwaith arferol dewisol.
Dyddiad Cau:
16:00pm ar 13th ionawr 2025
Communications Manager – Welsh Government (Cais)
Am fanylion llawn:
Gweithio i ni | Arolygiaeth Gofal Cymru
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 13 Ionawr 2025