Cyfle i gyfrannu’n greadigol at waith elusen Gristnogol gyfoes a chynhwysol.
Mae Cristnogaeth 21 yn awyddus i gynnig cytundeb achlysurol i berson cymwys i gydlynu a datblygu ei weithgareddau digidol a chyfryngol.
Prif amcan y swydd fydd cynorthwyo Pwyllgor Gweithredol C21 i gadw gorolwg strategol dros holl gyfryngau digidol y grŵp, ynghyd â datblygu a chydlynu’r cynnwys. At hynny, disgwylir i’r swyddog fedru darparu cyngor technegol cymwys er mwyn cynnal y platfformau digidol presennol a hwyluso datblygu rhai newydd.
Gellir cael manylion pellach drwy anfon neges at cristnogaeth21@gmail.com.
Mae manylion am C21 i’w cael ar ein gwefan: www.cristnogaeth21.cymru.
Dyddiad cau: Dydd Gwener, 18 Hydref 2024.
Hwylusir C21 gan yr elusen Llusern – Cristnogaeth 21 Cymru (rhif elusennol: 1011618).
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Cristnogaeth 21
- Math o swydd
- Achlysurol
- Disgrifiad swydd
- Swyddog-Cyfryngau-C21-232-2.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 18 Hydref 2024