Teitl swydd: Swyddog Llywodraethiant
Math o gontract: Parhaol
Oriau Gwaith: Llawn amser – 37 awr yr wythnos (er, ystyrir trefniant rhan amser o 30 awr yr wythnos hefyd)
Cyflog: £34,083 – £41,675 y flwyddyn (lle mae cyflog llawn amser yn cyfateb i 37 awr yr wythnos. Pro-rata am oriau rhan amser)
Lleoliad: Hyblyg – gweithredir trefniant hybrid ac opsiwn i fod yn Weithiwr Cartref os nad ydych yn byw o fewn pellter rhesymol o un o swyddfeydd y Comisiynydd. (Lleolir swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon)
Y Swydd
Yn dilyn cyfnod o ail-strwythuro mae gennym gyfle newydd cyffrous i berson profiadol a brwdfrydig ymgymryd â swydd Swyddog Llywodraethiant.
A oes gennych brofiad a diddordeb yn y maes llywodraethu o fewn y sector gyhoeddus yng Nghymru? A ydych yn berson trefnus, rhagweithiol gydag ymrwymiad i gynnal safonau a gyrru gwelliant o fewn fframwaith sefydliadol? Os felly, hoffem glywed gennych! Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni trwy swyddi@cyg-wlc.cymru neu 0345 6033221.
Dyddiad cau: 12:00, 11 Hydref 2024 Dyddiad cyfweld rhithiol: 22 Hydref 2024
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Comisiynydd y Gymraeg
- Math o swydd
- Llawn amser
- Ffurflen gais
- ffurflen-gais-monitro-3.docx
- Disgrifiad swydd
- Swyddog-Llywodraethiant-2.pdf
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 11 Hydref 2024