Prifysgol Wrecsam

Tiwtor Sgiliau Iaith ac Academaidd Cymraeg

Dyddiad cau: 8 Medi 2024

Cyfadran/Adran

Swyddfa’r Dirprwy Is-ganghellor

Adran

Y Gymraeg

Teitl y Swydd

Tiwtor Sgiliau Iaith ac Academaidd Cymraeg

Yn atebol i

Pennaeth Darparaieth Academaidd Cymraeg

Gradd

O&A4

 

Trosolwg o’r Swydd

Mae Prifysgol Wrecsam yn ymroddedig i’r iaith Gymraeg ac yn ehangu ac yn datblygu’r ddarpariaeth Cymraeg a dwyieithog yn y brifysgol ac yn ateb blaenoriaethau CYFLE – strategaeth academaidd cyfrwng Cymraeg a chynllun gweithredu’r brifysgol a chynllun academaidd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

 

Diben y Swydd

Mae Prifysgol Wrecsam yn ehangu ac yn ymestyn darpariaeth a gwasanaethau Cymraeg ar draws y brifysgol. Sicrhawn hyn drwy weithio yn agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru, ac mewn cydweithrediad a’n cyfadrannau a gwasanaethau proffesiynol ar draws y brifysgol. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol, o dan arweiniad Pennaeth Darpariaeth Academaidd Cymraeg y brifysgol, am gefnogi cyrsiau Cymraeg Gwaith i staff y brifysgol ac am ddarparu sesiynau sgiliau iaith o fewn pynciau penodol ac i gefnogi tȋm Sgiliau Academaidd y brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Prif Atebolrwydd

·       Cyflwyno rhaglen sgiliau iaith Gymraeg i’r myfyrwyr.

·       Helpu i ddatblygu a chyflwyno datblygu sgiliau Cymraeg newydd o fewn pynciau academaidd penodol.

·       Cyflwyno’r rhaglenni hynny yn unol â Fframwaith Ddysgu Actif y brifysgol ar gampysau Wrecsam a Llanelwy.

·       Cefnogi rhaglen Cymraeg Gwaith i staff yn amrywio o ddechreuwyr i hyfedredd.

·       Datblygu a darparu adnoddau ddysgu ar gyfer ystod eang o ddysgwyr.

·       Cefnogi dysgwyr sydd yn sefyll arholiadau neu asesiadau allanol a chefnogi’r tȋm sgiliau Academaidd yn y Gymraeg.

·       Cydlynu cyrsiau byr dwys i staff, myfyrwyr a’r gymuned.

·       Cyfrannu at ddiwylliant Cymreig y brifysgol mewn modd anffurfiol.

·       Gwneud staff a myfyrwyr yn ymwybodol o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio eu

·       Cymraeg tu allan i’r brifysgol.

·       Agwedd egnïol a brwdfrydig at ddysgu ac addysgu’r iaith Gymraeg.

 

Dyletswyddau Cyffredinol

Byddwch yn sicrhau bod systemau a gweithdrefnau rheoli priodol ar waith er mwyn bodloni’ch dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch a gynhwysir ym mholisi iechyd a diogelwch y Brifysgol. Yn benodol, byddwch yn sicrhau bod asesiadau risg priodol yn cael eu cynnal mewn perthynas â pheryglon sylweddol ac yr ymgymerir ag arolygon diogelwch o leiaf unwaith y flwyddyn ym mhob gweithle dan eich rheolaeth chi.

 

Cyfrifoldeb y gweithwyr yw ymgorffori Polisi Cyfle Cyfartal y Brifysgol o fewn eu maes cyfrifoldeb eu hunain ac yn eu hymddygiad cyffredinol.

 

Mae gan yr holl staff gyfrifoldeb i hyrwyddo gofal cwsmer o ansawdd yn eu maes cyfrifoldeb eu hunain.

 

Mae hi’n ofynnol bod staff yn ymwybodol o ymrwymiad y Brifysgol i Gynaliadwyedd.

 

Dylai holl staff y Brifysgol hyrwyddo ymddygiad iach, iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant.

 

Disgwylir i ddeiliaid swydd gydymffurfio â’r broses Adolygu Datblygiad Proffesiynol, gan gymryd rhan wrth osod amcanion er mwyn cynorthwyo gyda’r gwaith o fonitro perfformiad a datblygiad yr unigolyn.

 

Byddwch yn asesu anghenion hyfforddiant a datblygiad pob aelod o staff dan eich rheolaeth i sicrhau ei fod yn cael ei gefnogi’n ddigonol mewn perthynas â’i gyfrifoldebau yn y gwaith.

 

Dyletswyddau perthnasol eraill sy’n gymesur â gradd y swydd, a all gael eu neilltuo gan y Rheolwr, mewn cytundeb â deiliad y swydd. Ni ddylid gwrthod cytundeb o’r fath yn afresymol.

 

Mae’r cyfrifoldebau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn y swydd ddisgrifiad hwn yn fynegol, nid ydynt yn gynhwysfawr. Gellir addasu dyletswyddau a chyfrifoldebau mewn trafodaeth â deiliad y swydd.

 

Disgwylir i’r holl ddeiliaid swydd yn y Gyfarwyddiaeth allu cynnig cymorth ar draws pob maes, y tu hwnt i’w tîm uniongyrchol, ar gais y Cyfarwyddwr ac yn gymesur â’u sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad.

 

 

Adolygu

Mae hwn yn ddisgrifiad o’r swydd ar adeg ei chyhoeddi. Arfer y Brifysgol o bryd i’w gilydd yw adolygu a diweddaru swydd ddisgrifiadau er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu natur gyfredol y swydd a gofynion y Brifysgol yn gywir ac i ymgorffori unrhyw newidiadau rhesymol pan mae angen, mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd.

 

Enw’r cwmni neu sefydliad
Prifysgol Wrecsam
Math o swydd
Llawn amser
Dyddiad cau i ymgeiswyr
8 Medi 2024
Rhagor o wybodaeth
S4C

Prif Weithredwr

Dyddiad cau: Medi 30
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Cefnogi Prosiectau

Dyddiad cau: Medi 17
Severn Wye

Cynghorydd Ynni Cymunedol (Ceredigion)

Dyddiad cau: Medi 26
Prifysgol Wrecsam

Tiwtor Sgiliau Iaith ac Academaidd Cymraeg

Dyddiad cau: Medi 8
Llywodraeth Cymru

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Dyddiad cau: Medi 29
Llywodraeth Cymru

Uwch Swyddog Polisi Arweinyddiaeth a’r Gymraeg

Dyddiad cau: Medi 17
Cyllid a Thollau EF

Cyfieithydd

Dyddiad cau: Medi 18
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Addysg Taleithiol

Dyddiad cau: Medi 13
S4C

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Dyddiad cau: Medi 12

Cylchlythyr