Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol – Cymraeg yn Hanfodol – Parhaol
Cyflog: Grade 7 – £56,112 – £67,095
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn chwilio am Uwch-reolwr ar gyfer Arolygu Awdurdodau Lleol. Mae Arolygu Awdurdodau Lleol yn swyddogaeth allweddol wrth sicrhau y darperir gwasanaethau gofal cymdeithasol diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. Mae rôl Uwch-reolwr yn hanfodol wrth roi sicrwydd ac ysgogi gwelliant o ran ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Lleoliad
Cymru Gyfan, ond bydd y swydd wedi’i lleoli yn un o brif swyddfeydd AGC, sydd ym Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno. Disgwylir i gydweithwyr weithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, fel sy’n ofynnol. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig na’ch telerau ac amodau cytundebol.
Mae’r swydd hon yn golygu ymgymryd â gweithgarwch craffu, adolygu ac arolygu ledled Cymru ac felly bydd angen teithio ac aros dros nos ar adegau yn ogystal â gweithio oriau anghymdeithasol o bryd i’w gilydd.
Cymwysterau
Yn ddelfrydol, dylid meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig ynghyd â phrofiad perthnasol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gymwys ar lefel gradd neu uwch (mewn unrhyw bwnc) sydd â phrofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.
Mae enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol/addysg derbyniol yn cynnwys y canlynol (ymhlith eraill):
· Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
· cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy’n gysylltiedig â gofal iechyd,
· cymhwyster addysgu neu addysg,
· gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod
· Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Cyflog
Gellir ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£62,454) i ymgeiswyr sy’n dangos y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad hanfodol i lefel eithriadol mewn cyfweliad. Nid ystyrir cyflog presennol.
Manteision
Telir Lwfans Defnyddwyr Gofal Hanfodol o £1,000 y flwyddyn mewn cyfandaliad i Arolygwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd (cwblhau o leiaf o 2,000 o filltiroedd statudol bob blwyddyn ariannol).
Gweithio hybrid a hyblyg.
Dyddiad Cau:
16:00pm ar 26/09/2024
*Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Math o swydd
- Llawn amser
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 29 Medi 2024