Mae hwn yn faes gwaith proffil uchel sy’n cynnwys bwrw ymlaen ag ymrwymiad penodol y Rhaglen Lywodraethu i ehangu cyfran y gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda phennaeth y gangen i weithredu a monitro Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg.
Mae’r rôl hefyd yn cynnwys gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gefnogi arweinyddion i wella eu sgiliau i ysgogi gwelliant.
Bydd y rôl yn cynnwys datblygu polisi a rhoi cyngor i Weinidogion Cymru ar y meysydd gwaith a amlinellir uchod. Mae’n cynnig ystod eang o brofiad mewn datblygu polisi, darparu prosiectau a gweithio gyda rhanddeiliaid.
- Enw’r cwmni neu sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- Math o swydd
- Llawn amser
- Disgrifiad swydd
- Uwch-Swyddog-Polisi-1.docx
- Dyddiad cau i ymgeiswyr
- 17 Medi 2024