Penodi Bethan Emyr Jones i arwain y ffordd yn Ysgol Godre’r Berwyn

Mae’r sylfeini wrthi’n cael eu gosod ar gyfer cartref newydd i addysg 3-18 oed yn y Bala, ac mae Bethan Emyr Jones wedi’i phenodi i fod wrth y llyw yn Ysgol Godre’r Berwyn.

Mae’r sylfeini wrthi’n cael eu gosod ar gyfer cartref newydd i addysg 3-18 oed yn y Bala, ac mae Bethan Emyr Jones wedi’i phenodi i fod wrth y llyw yn Ysgol Godre’r Berwyn.

Bydd Bethan yn dechrau ar ei swydd fel Pennaeth yr ysgol gymunedol newydd hon ym mis Ionawr 2019, ac mae’n edrych ymlaen at yr her newydd o greu amgylchedd hapus a chyfeillgar lle y gall y plant fwynhau ddod i’r ysgol a mwynhau dysgu. Ei nod yw datblygu disgyblion sy’n “unigolion egwyddorol, mentrus, uchelgeisiol a hyderus”, trwy greu ysgol hapus sy’n rhoi’r plant yn gyntaf.

Bydd Ysgol Godre’r Berwyn yn ysgol gymunedol, a hynny ar gais y gymuned leol. Ac yn wir, bydd yn adnodd i bawb – bydd neuadd yr ysgol yn cael ei defnyddio fel sinema’r dref o fis Ionawr ymlaen. Mae Bethan yn gobeithio gweld yr ysgol a’r gymuned leol yn y Bala a’r dalgylch yn cyd-ymdreiddio, er mwyn cyfoethogi addysg a datblygiad personol y plant.

Mae ganddi brofiad helaeth o arwain ym maes addysg – bu’n bennaeth ar Ysgol Ffridd y Llyn, yn Bennaeth Strategol yn Ysgol Beuno Sant ac yn bennaeth Ffederasiwn Cysgod y Foel. Mae hefyd wedi treulio cyfnod ar secondiad gyda’r consortiwm lleol, GwE, fel Ymgynghorydd Her.

Un o Flaenau Ffestiniog yw Bethan yn wreiddiol, ac mae’n ymfalchïo yn nylanwad bro’r llechi arni. Er ei bod wedi setlo yn Llanuwchllyn erbyn hyn ac yn mwynhau’r olygfa o’r Aran a Llyn Tegid wrth agor y llenni bob bore, mae pobl Blaena’ yn dal i fod yn agos iawn at ei chalon, ac mae’r “llechan dal yn gryf yn y gwaed”!

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

 

Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Swyddog Datblygu

Dyddiad cau: Ebrill 22
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwiliadau

Dyddiad cau: Ebrill 22

Cylchlythyr