Bydd tri swyddog newydd yn teithio i’r Wladfa y flwyddyn nesaf, â’r dasg o ddatblygu’r Gymraeg yno. Y tri lwcus a gafodd eu penodi’n ddiweddar gan y British Council yw Gwenno Rees, Glesni Edwards ac Emyr Evans – felly beth am ddod i adnabod un ohonynt ychydig yn well?
Pwy yw Gwenno Rees?
Athrawes o Efail Isaf, Pontypridd, yw Gwenno, ac mae ar hyn o bryd yn Athrawes Blwyddyn 1 yn Ysgol Gymraeg Caerffili. Cyn hynny, bu’n gweithio fel Intern Gwaith Ieuenctid ac Addysg gyda Chymorth Cristnogol yng Nghymru.
Clywed stori ‘Bandit yr Andes’ a hanesion am Batagonia pan oedd yn blentyn, yn ogystal â dysgu plant yn ei dosbarth yng Nghaerffili am y Wladfa, sydd wedi ennyn ei diddordeb. A bydd ei chefndir ym myd addysg yn siŵr o fod o fudd iddi, gan mai bod yn diwtor dysgu Cymraeg i blant, pobl ifanc ac oedolion fydd ei phrif dasg ym Mhatagonia.
Ac nid ysgolion ym Mhatagonia yn unig fydd ar eu hennill – bydd Ysgol Caerffili hefyd yn elwa yn y pen draw, “rwy’n gobeithio dechrau cysylltiad cryf rhwng yr ysgolion ym Mhatagonia ac Ysgol Gymraeg Caerffili yn barod ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn 2019”.
Cymraeg yn yr ysgol ac yn y gymuned
Nid swydd ddysgu ‘ffurfiol’ arferol yw hon. Bydd disgwyl i Gwenno a’i chydweithwyr gynnig cyfleoedd i’r trigolion ymdrochi yn y Gymraeg mewn sefyllfaoedd naturiol yn eu cymunedau hefyd. “Rwy’n gobeithio parhau gyda’r gwaith da mae pobl wedi gwneud dros y blynyddoedd wrth hybu diddordeb pobl o bob oedran yn yr iaith,” medd Gwenno, a fydd yn trefnu digwyddiadau yn y cymunedau lleol hefyd yn rhan o’r swydd, gan gynnwys yr Eisteddfod flynyddol.
Dysgu wrth deithio, teithio wrth ddysgu
Mae Gwenno yn teimlo mai nawr yw’r amser gorau iddi symud a chael y “profiad anhygoel” o hybu’r Gymraeg yn y Wladfa. Ac mae’n cyfaddef ei bod hi’n eithaf hoff o brofi diwylliannau eraill ar draws y byd! “Mae’n obsesiwn!” meddai, wrth i ni ei holi a oedd yn hoffi teithio. Bydd stamp Patagonia yn ymddangos ochr yn ochr â’r India, Ethiopia, Canada a Tsieina ar ei phasbort ym mis Chwefror, pan fydd hi’n camu allan o’r awyren yr ochr draw’r byd ar antur newydd.
Pob hwyl iddi hi, Glesni ac Emyr yn y swydd o hybu’r Gymraeg bron i 8,000 o filltiroedd o gartref.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar golwg360.cymru.