Mae hyd yn oed “siant ar derasau stadiwm pêl-droed” yn llên
Dyna farn Steffan Phillips – crwt o Aberteifi sydd newydd ei benodi’n Swyddog Llenyddiaeth yn y Gymuned gan Llenyddiaeth Cymru.
Mae Steffan yn wyneb cyfarwydd, gan ei fod wedi bod yn gynhyrchydd llawrydd ar rai o ddigwyddiadau newydd mwyaf llwyddiannus y diwylliant Cymraeg dros y ddwy flynedd diwethaf – Gŵyl Hen Linell Bell yn Aberystwyth (Arad Goch), a Gŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi.
Yn ei swydd newydd, mae Steffan yn gobeithio dangos i gymunedau ledled Cymru nad “rhywbeth uchel-ael” yw llên a llyfrau, fel y mae pobl yn tueddu i feddwl. Mae’n credu bod llenyddiaeth yn perthyn i bob elfen o’n bywydau pob dydd, ac i bob un ohonom – o berfformiadau byw o gerddi mewn tafarn i ffilmiau byrion llenyddol ar y we, o instapoetry a geiriau caneuon i siant ar derasau stadiwm pêl-droed. Rhan o’i ddyletswydd ef, mae’n dweud, fydd sicrhau bod “llenyddiaeth ar gael ym mhob man”. Drwy wneud hyn, bydd modd ennyn diddordeb pobl newydd a sicrhau, nid yn unig bod llên yn perthyn i bawb, ond ei bod hefyd yn cynnig llais i bawb.
Un o’r prosiectau y bydd Steffan yn gyfrifol amdanynt fydd cynllun Bardd Plant Cymru. Casia Williams yw’r Bardd Plant ar hyn o bryd, a bydd yn y swydd tan 2019. Mae Steffan yn credu bod sicrhau bod plant yn mwynhau darllen yn un o’r heriau sy’n ei wynebu, ac mae’n bwriadu defnyddio’r prosiect hwn a dulliau newydd a dyfeisgar o weithio i ennyn diddordeb plant Cymru mewn llenyddiaeth.
Mae Steffan yn cyfaddef bod llenyddiaeth wedi ei ysbrydoli, ac wedi ei dywys i fydoedd newydd a chyffrous yn ystod ei ieuenctid. Mae’n gobeithio trosglwyddo’r angerdd sydd ganddo am lenyddiaeth ymlaen i ieuenctid heddiw – pob hwyl iddo yn y gwaith.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg 360