Y “cyfuniad perffaith o waith creadigol a helpu eraill” i Elan Rhys

Mae Llenyddiaeth Cymru newydd benodi Elan Rhys i weithio ar brosiect newydd sbon ‘Llên Pawb’ yn y gogledd.

Ymgeisiodd Elan Rhys, sy’n wyneb cyfarwydd fel aelod o’r grŵp Plu, am y swydd hon gan ei bod yn cynnig y “cyfuniad perffaith” o waith creadigol a’r cyfle i helpu pobl eraill.

Yn ei swydd flaenorol gyda GISDA – cwmni sy’n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc – bu’n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref a bregus ac yn darparu gweithgareddau trwy gyfrwng celf weledol, cerddoriaeth a dyfeisio theatrig. Mae hefyd yn Asiant Creadigol i brosiect Ysgolion Creadigol y Cyngor Celfyddydau, a hi yw cydlynydd y rhaglen Criw Celf, sy’n gweithio gyda phobl ifanc talentog yng Ngwynedd a Môn.

Er yr holl waith creadigol amrywiol hwn, mae’n dweud bod llên yn faes newydd iddi.

Yn ei rôl o ddydd i ddydd fel Swyddog Prosiect Llên Pawb bydd yn darparu gweithgareddau llenyddol i grwpiau o bobl, sy’n cynnwys pobl sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu’n gymdeithasol a’r rhai sydd heb ymwneud llawer â’r celfyddydau yn y gorffennol. Drwy gydweithio â sgwennwyr profiadol, bydd yn annog y bobl ifanc i fynegu eu hunain drwy lenyddiaeth, yn eu galluogi i barhau i ddysgu, ac yn eu helpu i greu cysylltiadau cymdeithasol, drwy wella eu hiechyd a’u lles ar yr un pryd.

Pob hwyl i Elan ac i Llenyddiaeth Cymru gyda’r prosiect newydd hwn.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg 360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr