Rai wythnosau’n ôl ar Golwg 360 cawsom gyfle i ddod i adnabod un aelod o’r tîm a fydd yn gweithio fel Swyddogion Datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia, sef Gwenno Rees. Yr wythnos hon, Glesni Mair Edwards sy’n cael ein sylw – bydd hi’n teithio gyda Gwenno i dde America ym mis Chwefror.
Mae’r swyddi yma wedi bodoli gan y British Council ers 1997, ac mae dau berson wedi teithio o Gymru i ben draw’r byd bob blwyddyn er mwyn hybu’r defnydd o’r Gymraeg yno. Yn ogystal â chynorthwyo gyda’r gwaith dysgu mewn dwy ysgol ddwyieithog – Ysgol Gymraeg y Gaiman ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew – bydd Glesni a Gwenno’n gyfrifol am gynnal sesiynau dysgu Cymraeg i oedolion ac yn cynorthwyo gyda threfnu nifer o ddigwyddiadau a sesiynau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg yn Nyffryn Camwy.
O Ddyffryn Clwyd i Ddyffryn Camwy
“Rwy’n ffodus o fod wedi cael fy magu mewn ardal mor hardd â Dyffryn Clwyd,” meddai Glesni wrth Golwg gan sôn am ei magwraeth yn Llandyrnog. A gan nad yw wedi bod ym Mhatagonia o’r blaen, mae’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth rhwng y golygfeydd a’r dirwedd ym mro ei mebyd ac yn Nyffryn Camwy.
Er nad yw erioed wedi troedio tir de America o’r blaen, mae ganddi brofiad o weithio dramor. Pan oedd yn ddeunaw oed bu’n cynnal a chadw’r Parciau Cenedlaethol yn Tasmania a Perth yn Awstralia dros gyfnod o 6 mis. Mae’n gobeithio y bydd y profiadau ym maes cadwraeth a’r amgylchedd ym mhen draw’r byd o fudd iddi wrth geisio cynnal a hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y cymunedau yn y Wladfa.
Mae Glesni’n edrych ymlaen yn eiddgar at barhau â’r “gwaith gwych” sydd eisoes wedi’i wneud yn hybu’r iaith, a sicrhau bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn parhau i gynyddu. Mae’n cydnabod y “potensial aruthrol” i hybu’r Gymraeg nid yn unig drwy’r ysgolion, ond drwy ffordd o fyw’r trigolion lleol.
Bydd tri Swyddog Datblygu’r Gymraeg yn hedfan i Batagonia ddiwedd Chwefror, ac yn gweithio yno tan ddiwedd 2018.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg 360.