Mae Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru, Ben Lake, wrth ei fodd â’r tîm o staff ifanc y mae wedi’i benodi i weithio gydag ef yng Ngheredigion.
“Ces i bwt o gyngor pwysig gan Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin, ar ôl i mi gael fy ethol sef yr angen i benodi aelodau staff sy’n fwy galluog na mi!” meddai Ben Lake wrth Golwg360.
Bu Aled Morgan Hughes a Carys Mai Lloyd ynghlwm â’r ymgyrch i ethol Ben Lake, sydd wedi disodli Mark Williams fel Aelod Seneddol Ceredigion a chipio’r sedd yn ôl i Blaid Cymru am y tro cyntaf ers 12 mlynedd.
Mae Aled yn credu y bydd ei brofiad diweddar o sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru ym Maldwyn o fudd iddo yn ei rôl newydd fel Prif Swyddog Polisi a Gwaith Achos. Ac meddai Aled ei fod yn barod am yr her “i gael sicrhau dyfodol gwell i Geredigion”.
Yn un o sylfaenwyr y mudiad i bobl ifanc ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw’ ac aelod o gwmnïau actorion Theatr Gydweithredol Troed-y-rhiw a Theatr Felin-fach yw Carys. Mae’n gobeithio y bydd ei phrofiad o weithio yn y gymuned yn help iddi fel Prif Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Cymunedol yr AS. “Mae gwrando a siarad gydag etholwyr a chymunedau yn bwysicach nag erioed yn y sefyllfa wleidyddol ry’n ni ynddi ar hyn o bryd a dwi’n barod am yr her sy’n fy wynebu”.
Bydd y tri ohonynt yn gweithio o swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan, gan gydweithio’n agos gydag Elin Jones AC a’i thîm o staff yn Aberystwyth.
Cafodd y ddwy swydd eu hysbysebu ar Golwg360 ac yng nghylchgrawn Golwg.