Pennaeth Addysg newydd yng Ngwynedd

Garem Jackson yw Pennaeth Addysg newydd Cyngor Gwynedd.

Cyn-yrrwr bws yn Bennaeth Addysg

Efallai fod ei wyneb yn gyfarwydd i rai ohonoch. Cyn mentro i’r byd addysg a chael swyddi fel Athro, Pennaeth, Arolygydd a Chynghorydd, bu Garem Prytherch Jackson yn actio ar lwyfan a theledu. Bu hefyd yn gyrru bysiau teithiau gwyliau ym Mhrydain ac ar y cyfandir. Mae’r profiadau diddorol y mae wedi’u cael mewn sawl maes yn golygu ei fod wedi dysgu llawer am bobl – rhywbeth a fydd o fudd mawr iddo yn ei rôl newydd yn Bennaeth Addysg Gwynedd.

Gwneud y pethau pwysig

Mae Garem Jackson yn ymgymryd â’r rôl bwysig hon mewn cyfnod anodd. Ond mewn cyd-destun o gyni ariannol a’r toriadau sy’n wynebu Cynghorau Sir, nid ‘gwneud mwy gyda llai’ yw nod Garem Jackson. Iddo ef, mae’n bwysicach ‘gwneud y pethau pwysig’ er mwyn cynnal a gwella safonau addysg.

“Os nad ydy rhywbeth yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i safon addysg a bywydau ein plant a’n pobl ifanc, fydda’ i ddim yn ei wneud o – a dyna ydy fy neges i’n hysgolion i gyd”.

Beth sy’n bwysig iddo, felly? Wel, canolbwyntio ar ansawdd yr addysg, cefnogi a datblygu arweinwyr yr ysgolion, a chynnig y profiadau gorau o ran addysg a lles i bawb. Buddsoddi er lles pawb: ei weledigaeth yw sicrhau bod “POB plentyn a pherson ifanc yng Ngwynedd yn derbyn yr addysg sydd yn eu galluogi i lwyddo hyd eithaf eu potensial.”

Dysgu a chymdeithasu yn sŵn y Gymraeg

Gan gydnabod y sefyllfa unigryw yng Ngwynedd o ran y Gymraeg, mae’n cydnabod nad mewn addysg ffurfiol yn unig y mae’r cyfle i’r Gymraeg fod yn rhan o fywyd plant a phobl ifanc. Mae’n canu clodydd y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan ysgolion cynradd yng nghyswllt y Siarter Iaith. Ac mae’n gweld cyfle i’r Strategaeth Iaith Uwchradd ehangu ar y gwaith da hwn, er mwyn gweld y Gymraeg yn datblygu’n “gyfrwng cymdeithasol, naturiol, byw” y tu hwnt i’r ysgol, ac yn y cymdogaethau.

Mae Garem Jackson yn gobeithio defnyddio’r swydd bwysig hon i wneud mwy na chynnal y safonau da y mae’n eu gweld eisoes yn ysgolion Gwynedd. Mae hefyd yn dymuno codi’r safonau er budd pawb, a sicrhau bod y plant yn mwynhau eu haddysg. A phwy ag ŵyr, drwy wneud hynny, a fydd yn annog awdurdodau lleol eraill ei ddilyn ôl ei draed?

Mae Garem Jackson yn olynu Arwyn Thomas, sydd bellach yn Rheolwr-gyfarwyddwr GwE. Dechreuodd ar ei swydd ar 9 Tachwedd, a bydd yn gweithio’n bennaf o Gaernarfon.

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg 360 ac yng nghylchgrawn Golwg.

 

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr