Sian Lewis yn Brif Weithredwr newydd yr Urdd

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Sian Lewis o Gaerdydd sydd wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr i’r mudiad.

Mi fydd Sian Lewis yn gadael ei swydd fel Prif Weithredwr Menter Caerdydd a Bro Morgannwg – menter sy’n gyfrifol am drefnu amryw o ddigwyddiadau gan gynnwys gŵyl Tafwyl yn y brifddinas.

‘BLWYDDYN NEWYDD, DECHRAU NEWYDD’

Bydd Sian Lewis yn dechrau ar ei rôl fel Prif Weithredwr ym mis Ionawr.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio’n agos gyda staff a gwirfoddolwyr ymroddedig y mudiad er mwyn cynnig cyfleoedd gwych drwy’r iaith Gymraeg i blant a phobol ifanc Cymru,” dywedodd Sian Lewis, a fu’n Swyddog Datblygu i’r Urdd rhwng 1994 a 2003.

“Mae’r Urdd yn falch iawn bod Sian Lewis yn ymuno gyda ni fel Prif Weithredwr,” meddai Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Urdd Gobaith Cymru.

“Mae hi wedi profi ei bod hi’n arweinydd naturiol, ac mae’r mudiad yn edrych ymlaen at gyfnod cyffrous o dan ei harweiniad.”

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg 360 ac yn ein cylchlythyr swyddi.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr