Angen cyflenwad cyson o “bobl, syniadau ac egni newydd” ar amaeth

Delyth Jones – gwraig fferm sy’n byw byd amaeth – yw Swyddog Mentro newydd Menter a Busnes yn Aberystwyth.

Mae yna nifer fawr o bobl yn chwilio am ffordd i mewn i ffermio yng Nghymru, ac mae nifer o ffermwyr a thirfeddianwyr sydd eisoes wedi sefydlu yn dymuno cymryd cam yn ôl o’r diwydiant. A dyna pam y sefydlwyd cynllun Mentro – er mwyn torri tir newydd o ran paru newydd-ddyfodiaid a ffermwyr sy’n ystyried ymddeol. Mae’r cynllun wedi datblygu cymaint ers ei lansio yn 2015, bellach mae angen dau Swyddog Mentro i gwblhau’r gwaith ar draws Cymru.

Yr aelod diweddaraf i ymuno â’r tîm yw Delyth Jones – merch a gwraig fferm sy’n cyfaddef na allai “ddychmygu gwneud dim arall ond bod yn ynghlwm â’r diwydiant.” Mae hi’n awyddus iawn i helpu pobl ifanc sy’n dymuno mentro i fyd amaeth, ac mae’n edrych ymlaen at fod ar ben arall y ffôn (neu’r sgrîn) i gynnig gair o gyngor a chefnogaeth – i’r ffermwyr ifanc a’r rhai aeddfed.

Mae gan Delyth brofiad helaeth o weithio gydag amaethwyr. Yn fwyaf diweddar bu’n gweithio i EIDCymru, lle bu’n darparu gwasanaeth cefnogaeth a chymorth i ffermwyr a marchnadoedd da byw ynglŷn â rheolau symudiad defaid.

Ond beth am obeithion Delyth ar gyfer y swydd hon? Wel, mae’n cydnabod bod angen cyflenwad cyson o bobl newydd, syniadau newydd ac egni newydd ar bob diwydiant llewyrchus er mwyn ffynnu, ac nid yw’r diwydiant amaeth yn eithriad. “Rwy’n gobeithio bod pobl ifanc yn gallu cael y cyfle, dilyn eu breuddwydion a rhedeg eu busnes yn llwyddiannus fel bod y diwydiant amaeth yn un llewyrchus sy’n arwain at fuddiannau economaidd, diwylliannol ac ieithyddol yng nghefn gwlad Cymru” meddai.

Er mwyn i fyd amaeth barhau i lewyrchu yng Nghymru, mae Delyth o’r farn bod angen i amaethwyr ifanc fod yn hyderus ac ehangu eu gorwelion, ynghyd â chael meddwl agored am y posibiliadau. A’i phrif neges i amaethwyr ifanc? “Gwnewch y mwyaf o wasanaethau fel Cyswllt Ffermio a’r rhaglen Mentro i’ch cynorthwyo chi i wireddu eich amcanion.”

Pob hwyl i Delyth a thîm rhaglen Mentro gyda’r gwaith.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Swyddog Datblygu

Dyddiad cau: Ebrill 22
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwiliadau

Dyddiad cau: Ebrill 22
Cymwysterau Cymru

Swyddog Polisi Rheoleiddio

Dyddiad cau: Ebrill 14
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau Bwrdd

Dyddiad cau: Ebrill 16
Ombwdsmon Cymru

Pennaeth Gwasanaethau TG

Dyddiad cau: Ebrill 8
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Marchnata (Cymraeg yn Hanfodol)

Dyddiad cau: Ebrill 5
Menter a Busnes

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth)

Dyddiad cau: Ebrill 2
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau

Dyddiad cau: Ebrill 11
Tinopolis

Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol

Dyddiad cau: Ebrill 2

Cylchlythyr