Gydag ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhort Talbot a phobl yn atgyfodi hen draddodiadau Cymreig yn yr ardal, mae Bethan Davies yn llawn gobaith wrth ddechrau ar ei chyfnod yn Brif Swyddog Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot.
Merch o Dreforys yw Bethan yn wreiddiol, ac er iddi gael ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yno mae wedi gwneud gyrfa i’w hun yn ymroi i hybu’r iaith ar hyd a lled y de-ddwyrain.
Ar ôl cyfnod yn hyrwyddo dwyieithrwydd gyda Choleg Dewi Sant, Caerdydd ac yn gweithio gydag ieuenctid yn y gymuned gyda’r Fenter Iaith yn Abertawe a’r Urdd yng Ngorllewin Morgannwg a De Powys, mae’n falch o’r cyfle hwn i gael swydd yn “agosach at adref”, sef Baglan, Port Talbot.
Dechreuodd ar ei rôl newydd ym mis Medi, ac mae’n cymryd lle Owain Glenister – un a gyfrannodd yn benodol at hybu cerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal trwy waith y Fenter. Bydd Bethan yn gyfrifol am arwain tîm Menter Castell-nedd Port Talbot i ddarparu a chynnal amrywiaeth o weithgareddau i bobl o bob oed. Mae’n gobeithio y bydd awydd y trigolion lleol i atgyfodi rhai o hen draddodiadau’r Cymry, fel y Fari Lwyd, yn ysgogiad i eraill ar draws y fro.
Fel yr unig siaradwr Cymraeg yn ei theulu, mae’n awyddus i ddenu aelodau di-Gymraeg y gymdeithas i weithio gyda’r Mentrau er mwyn sicrhau dyfodol i’r iaith yn yr ardal. “Hoffwn roi’r neges i blant a phobl ifanc sy’n dod o deuluoedd di-Gymraeg fel fi y dylsen nhw gael hyder yn eu gallu” i siarad Cymraeg. Mae’n siŵr y bydd ei phrofiad o godi ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg yn y gymuned yn gaffaeliad i’r Fenter dros y blynyddoedd nesaf.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.