Bronwen Raine i gymryd yr awenau gydag Antur Teifi

Mae un o brif gwmnïau datblygu busnes Cymru wedi penodi Rheolwr-Gyfarwyddwr newydd. Bydd Bronwen Raine yn dilyn ôl traed Dewi Williams wrth arwain menter gymdeithasol Antur Teifi.

Mae un o brif gwmnïau datblygu busnes Cymru wedi penodi Rheolwr-Gyfarwyddwr newydd. Bydd Bronwen Raine yn dilyn ôl traed Dewi Williams wrth arwain menter gymdeithasol Antur Teifi – menter sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed yn 2019.

Daw Bronwen o’r Rhondda yn wreiddiol, ac ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yn y Brifddinas aeth ymlaen i astudio’r gyfraith yn y London School of Economics. Ond yn hytrach na dilyn gyrfa addawol yn y gyfraith, mentrodd i fyd entrepreneuriaeth gan redeg busnesau cludo nwyddau a busnes hurio beiciau modur yn Llundain.

Dychwelodd i Gymru i weithio fel arbenigwr ym maes cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector gwirfoddol ac fel ymgynghorydd, cyn cael swydd fel Rheolwr Cytundeb Cychwyn Busnes Newydd i Geredigion a Phowys gydag Antur Teifi.

Ei blaenoriaeth fel Rheolwr-Gyfarwyddwr fydd cryfhau elfen fasnachol y fenter. Mae hefyd yn awyddus i ddefnyddio “cyfoeth o brofiad a gwybodaeth” Antur Teifi o wasanaethu busnesau ledled Cymru. “Mae gennym lawer yn gyffredin â’r busnesau yr ydym wedi’u cefnogi dros y blynyddoedd. Wedi tyfu o gwmni bach ond ymrwymedig ein hunain, mae gennym ddealltwriaeth gynhenid ​​o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau a mentrau gwledig” medd Bronwen.

Wrth gydnabod bod y profiad hwnnw’n deillio o wreiddiau lleol cryf y fenter yn Nyffryn Teifi, mae’n teimlo bod gwreiddiau’n sail hollbwysig ar gyfer busnes llwyddiannus. I Bronwen, mae busnes lleol da yn un sy’n aros yn driw i’w wreiddiau, sy’n “adlewyrchu’r diwylliant a’r gwerthoedd digamsyniol sydd i’w cael yn lleol, ond sydd hefyd ar flaen y gad wrth esblygu arferion busnes ac yn barod i newid er mwyn parhau’n berthnasol i farchnadoedd sy’n newid”.

Ac wrth ddechrau yn ei rôl newydd gyda’r cwmni datblygu busnes, mae ganddi air o gyngor i unrhyw sy’n sy’n awyddus i fentro yn y maes – “gwnewch rywbeth yr ydych yn credu’n frwd ynddo, cymerwch eich amser, ymchwiliwch i’ch marchnad a pheidiwch â thanbrisio eich hun.”

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

 

 

 

Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Swyddog Datblygu

Dyddiad cau: Ebrill 22
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwiliadau

Dyddiad cau: Ebrill 22

Cylchlythyr