Cyfieithwyr newydd Cyngor Ceredigion

Mae Cyngor Sir Ceredigion newydd ychwanegu pedwar cyfieithydd i’r tîm ym Mhenmorfa, Aberaeron. Aeth Golwg i holi dau ohonynt – Meryl Roberts a Rhidian Jones – pam mai hwn oedd ‘Jest y Job’ iddyn nhw…

Mae Cyngor Sir Ceredigion newydd ychwanegu pedwar cyfieithydd i’r tîm ym Mhenmorfa, Aberaeron – rhai’n brofiadol yn y maes ac eraill yn camu i’w swydd lawn-amser gyntaf; rhai yn dod o Geredigion a’r cyffiniau ac eraill yn dychwelyd i’w cynefin.

Aeth Golwg i holi dau ohonynt – Meryl Roberts a Rhidian Jones – pam mai hwn oedd ‘Jest y Job’ iddyn nhw…

Meryl Roberts

Rhowch syniad i ni o ddiwrnod arferol yn y swyddfa

Mae wyth ohonom yn rhannu ystafell a’r gwaith yn cyrraedd ar e-bost i gyfeiriad canolog yr adran.  Byddwn yn cymryd darnau o’r pair gwaith, sy’n amrywiol iawn o ran eu cynnwys a’u hyd, ac yn bwrw iddi i gyfieithu gwaith ar gyfer holl adrannau’r Cyngor Sir.  Er bod pawb yn gweithio’n annibynnol mae digon o gyfle i drafod geiriau/cymalau lletchwith ac agweddau eraill ar y gwaith ymysg ein gilydd.  Mae ymdeimlad cryf o dîm yma.

Beth yw’r cam-gyfieithiad gwaethaf i chi ei weld erioed?

Lapiwch y dydd (Wrap of the day)

Pa air y mae’n gas gennych chi ei gyfieithu?

Maximise

Beth yw eich swydd waethaf hyd yn hyn? 

Yr elfen waethaf mewn un swydd oedd bwydo miloedd o enwau a chyfeiriadau i gronfa ddata.

Sut beth fyddai eich penwythnos delfrydol?

Gan fy mod yn byw’n weddol agos i’r môr, bydda’ i a’m gŵr yn cerdded gwahanol rannau o lwybr arfordir Ceredigion yn rheolaidd.  Mae ein pedair merch wrth eu boddau’n dod gyda ni felly bydden i’n trefnu bod pawb gartre’ am y penwythnos, bydden ni’n mynd â phicnic mewn bag ar ein cefnau ac yn cael sglodion yn yr awyr agored ar y ffordd nôl. Byddai cael ymlacio dros bryd o fwyd a glasied o win coch ar yr ail ddiwrnod yn ddiwedd-glo da i’r penwythnos.

Rhidian Jones

Un o ble ydych chi?

Gaerfyrddin, ond mae gwreiddiau’r teulu yng Ngheredigion.

Pam dewis gyrfa fel cyfieithydd?

Rwy’n gyfieithydd ers dros bedair blynedd bellach. Diddordeb mewn geiriau oedd yr atyniad ac mae cyfieithu mewn cyfarfodydd yn rhoi cyfle i chi glywed beth sy’n mynd ymlaen ac i weld y broses o wneud penderfyniadau.

Beth yw eich swydd waethaf a’ch hoff swydd hyd yn hyn?

Fy swydd waethaf oedd jobyn haf mewn golchdy ysbyty. Digon yw dweud bod staff parhaol y lle wedi cael pigiadau rhag pob clefyd dan haul. A’r swydd orau – darlithio Cymraeg mewn prifysgol yn Lublin, Gwlad Pŵyl.

Sut ydych chi’n hoffi eich paned?

Te cryf. Mae mwg arbennig ‘da fi yn y gwaith – un mawr du sy’n cwato staen y te.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Diddanu Madog y crwt, mynd i Barc y Scarlets lle mae ‘da fi docyn tymor, darllen llyfrau ffeithiol ac os oes amser, beicio ar hyd lonydd y wlad.

Beth yw’r cam-gyfieithiad gwaethaf i chi ei weld erioed?

Cam-ddyluniad yw e a dweud y gwir – cyfarwyddyd yn Gymraeg a Saesneg i ddiffodd swits golau, a’r ddau air ar y gwaelod, wrth ochr ei gilydd mewn llythrennau bras, oedd EF! OFF!

 

Cawn hanes y ddau gyfieithydd arall – Lliwen Jones a Dafydd Williams, yn Golwg yr wythnos nesa’.

Cafodd y swyddi hyn eu hysbysebu ar Golwg360.

 

Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29

Cylchlythyr