Cyngor cyn cael cyfweliad!

Aeth Golwg360 i’r Eisteddfod Rhyng-gol a gofyn i’r myfyrwyr beth fyddai ei angen arnyn nhw cyn mentro i’r byd mawr a chwilio am waith. A’r ateb? Cyngor cyn cael cyfweliad!

Roedd Llambed yn croesawu’r Eisteddfod Rhyng-gol dros y penwythnos, a daeth cannoedd o fyfyrwyr brwd i Geredigion i fwynhau. Roedden ni yn Golwg360 yn credu y byddai’n syniad da galw heibio i sôn am yr adran swyddi a gofyn i’r myfyrwyr beth fyddai ei angen arnyn nhw cyn mentro i’r byd mawr a chwilio am waith.

A’r ateb? Cyngor cyn cael cyfweliad!

 

CYN Y CYFWELIAD

 

#paratoi

Felly rwyt ti’n ddigon ffodus i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dy swydd ddelfrydol. Ond faint wyt ti’n ei wybod go iawn am y gweithle? Ai sefydliad, mudiad, neu fusnes preifat ydyw? Beth yw ei nod? Sut mae’n gweithredu? A pha ddyletswyddau’n union sydd wedi’u nodi ar dy gyfer yn y disgrifiad swydd? A oes erthyglau am y cwmni ar y we? Cofia wneud dy waith ymchwil cyn mentro i’r cyfweliad.

#holi

Oni bai bod hon yn swydd gwbl newydd, mae’n siŵr y bydd rhywun wedi gwneud gwaith tebyg o’r blaen, felly cofia holi pobl sydd wedi gwneud swydd debyg am eu profiadau. Mae’n ffordd dda o ddarganfod pa mor addas wyt ti ar gyfer y rôl, ac o ddarganfod y cyfleoedd a’r heriau y gallet ddod ar eu traws.

#ymwybyddiaeth

A oes datblygiadau diweddar ar lefel lywodraethol neu bolisi a allai effeithio ar y maes yr wyt am weithio ynddo? Ceisia gadw dy fys ar y pỳls gydag unrhyw faterion cyfoes perthnasol.

#ymarfer

Beth am ddod o hyd i fan bach tawel yn y tŷ, er mwyn ymarfer ateb cwestiynau cyfweliad yn uchel i ti dy hun? Efallai y byddi di’n darganfod lle’r wyt ti’n dueddol o grwydro oddi ar drywydd y cwestiwn, neu’n sylwi dy fod yn ceisio dweud gormod! Ceisia ymarfer ateb pob cwestiwn mor llawn ag sy’n bosibl heb ailadrodd.

#prydable

Mae’n bwysig gwirio ym mhle yn union mae’r cyfweliad, faint o’r gloch ac a oes lle i barcio. Mae argraffiadau cyntaf yn cyfrif – dwyt ti ddim am fod yn hwyr!

 

YN YSTOD Y CYFWELIAD

 

#cyswlltllygad

Y ffordd orau o ddangos dy fod yn hyderus, hyd yn oed os wyt ti braidd yn nerfus, yw gwneud cyswllt llygad da gyda’r panelwyr trwy gydol y cyfweliad. A gwena, hyd yn oed os wyt ti’n casáu pob munud!

#profiadau

Does dim gwhaniaeth os mai dyma dy gyfweliad cyntaf am swydd neu os wyt ti’n hen ben arni, mae’r cyflogwr eisiau clywed am y sgiliau rwyt ti wedi’u meithrin trwy dy brofiadau. Galli sôn am dy brofiadau mewn swydd arall, ym myd addysg neu unrhyw agwedd ar dy fywyd. Ceisia fod yn gryno wrth sôn am enghreifftiau: disgrifio’r sefyllfa, y nod, sut es ti ati i weithredu, a pha effaith y cafodd hyn. Ceisia ddangos dy fod wedi dysgu o dy brofiadau – boed yn rhai cadarnhaol neu negyddol.

#ddimynberffaith

Er mai ‘gwerthu dy hunan’ yw’r nod mewn cyfweliad, ceisia peidio ag ymddangos yn or-hyderus. Byddai’n dda o beth pe byddet yn dod allan o’r cyfweliad wedi tynnu sylw at dy holl gryfderau, ond cofia nad gwendid yw cyfaddef dy wendidau. Does neb yn berffaith, a does dim un sefydliad neu fusnes yn chwilio am berson perffaith, felly bydda’n onest a dwed pa agweddau yr hoffet ti eu gwella.

#cwestiynu

Os oes nerth ar ôl gen ti ar ôl derbyn llu o gwestiynau, ceisia holi cwestiwn dy hunan ar ddiwedd y cyfweliad. Mae’r panel yno i ddarganfod mwy amdanat ti, ond rwyt ti yno i ddarganfod mwy am y swydd hefyd, felly nawr yw’r amser i holi.

#naturiol

Y cyngor olaf, a’r pwysicaf, yw cofia fod yn ti dy hun. Bydda’n onest a dangosa dy bersonoliaeth. Dwyt ti ddim yno er mwyn bod y person gorau mewn cyfweliad; yn hytrach rwyt ti yno i ddangos pwy wyt ti, gan adael i’r panel benderfynu ai person fel ti sydd ei angen ar gyfer y swydd.

 

Pob hwyl!

 

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr