“Eisiau gweld pob cornel o Geredigion yn fwrlwm o Gymreictod”

Non Davies, un o hoelion wyth gweithgarwch Cymraeg a Chymreig Aberteifi, sydd newydd ddechrau ar ei swydd fel Rheolwr Cered yr wythnos hon.

Non Davies, un o hoelion wyth gweithgarwch Cymraeg a Chymreig Aberteifi, sydd newydd ddechrau ar ei swydd fel Rheolwr Cered yr wythnos hon.

Mae ei chefndir o ran gyrfa’n amrywiol – dechreuodd fel athrawes Bioleg ac yna symudodd ymlaen i weithio mewn Adran Iechyd yr Amgylchedd cyn ymgymryd â swydd Trefnydd Cenedlaethol Merched y Wawr. Bydd yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Rheolwr y Gymraeg, Cyfathrebu a Chymuned dros Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion er mwyn mynd i weithio i Cered.

Mae Non yn edrych ymlaen at y “sialens newydd” o lywio gwaith menter iaith Ceredigion yn ei nod o gefnogi, dylanwadu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y sir ar lefel gymunedol a chymdeithasol, mewn addysg ac yn y byd gwaith.

’Dyw gweithgarwch cymunedol Cymraeg ddim yn ddieithr i Non – ers blynyddoedd mae wedi bod yn canu ac yn perfformio gyda chwmni Opera Teifi ac yn cyfarwyddo cwmni pobl ifanc CICA. Mae’n cyfrannu at lwyddiant papur bro lleol y Dwrgi, Gŵyl Fawr Aberteifi a Gŵyl y Cynhaeaf, ac ar hyn o bryd hi yw Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Castell Aberteifi.

Ac mae hi’n gobeithio defnyddio ei hadnabyddiaeth o weithgarwch llawr gwlad yn y sir i gydweithio â phobl a chymdogaethau er mwyn cefnogi’r gwaith da sydd eisoes yn digwydd, a’i ehangu. Yn ôl Non, “mae cymaint o syniadau da gan bobl leol – mae’n bwysig ein bod ni yn eu cefnogi a’u galluogi i roi syniadau ar waith.”

Ei nod yw gweithio gyda’r tîm o staff brwdfrydig yn Cered i adnabod cyfleoedd i weithredu a gweithio gyda chymunedau ar hyd a lled y sir, er mwyn sbarduno brwdfrydedd ac angerdd dros y Gymraeg fel bod “pob cornel o Geredigion yn fwrlwm o Gymreictod!”

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29

Cylchlythyr