Eleri Wynne yn teimlo’n “hynod o lwcus” i weithio yn y byd diwylliannol

Mae Eleri Wynne – Swyddog Cyfathrebu Mewnol a Materion Allanol newydd Amgueddfa Cymru – yn teimlo’n “hynod o lwcus” i weithio yn y byd diwylliannol.

Penodi Pwy?

Mae’n gyfnod prysur i Eleri Wynne, wrth iddi ymgyfarwyddo â’i swydd newydd fel Swyddog Cyfathrebu Mewnol a Materion Allanol Amgueddfa Cymru a mynd ati i drefnu ei phriodas yn ei hamser sbâr!

Mae gwarchod a hyrwyddo celfyddydau a threftadaeth Cymru yn rhywbeth agos at ei chalon, ac mae Eleri yn falch o’r cyfle i rannu diwylliant a threftadaeth Cymru sy’n cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Dechreuodd ar ei gyrfa gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru – partneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Cyngor Prydeinig. Yna bu’n Swyddog Datblygu gyda Celfyddydau a Busnes Cymru cyn symud i’r RSPB yng Nghaerdydd, lle bu’n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu a Rheolwr Digwyddiadau.

Bydd yn teithio tipyn o Gymru i gwrdd â staff ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa, a bydd hefyd yn cydweithio â chynrychiolwyr sefydliadau a mudiadau partner trwy drefnu ymweliadau a digwyddiadau.

Un elfen bwysig o’r gwaith yw cwrdd â phobl wyneb yn wyneb, ond mae hefyd yn awyddus i ddefnyddio cyfryngau newydd mewn modd creadigol i gyfleu negeseuon ar ran yr Amgueddfa. I wir ddatblygu a thrawsnewid y byd cyfathrebu, mae Eleri yn credu y bydd angen defnyddio mwy o ffyrdd creadigol i gysylltu gyda chymunedau a’u hysbrydoli, er mwyn denu mwy o gynulleidfaoedd.

Ond beth yw ei hoff beth am y swydd? “Fel rhywun sy’n hoff o’r celfyddydau, mae gweithio mewn adeilad sy’n edrych ar ôl rhai o drysorau mwyaf gwerthfawr Cymru yn gwneud dydd arferol o waith yn ddydd i’w gofio, ac mae hi’n neis iawn gallu picied allan amser cinio i weld yr arddangosfa ddiweddaraf!” medd Eleri. “Dwi’n hoff iawn o La Parisienne gan Renoir, ac mae cerdded heibio darnau o gelf fel hyn ar fy siwrnai i’r swyddfa yn wych.”

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cynorthwyydd Derbynfa

Dyddiad cau: Ebrill 17
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Swyddog Datblygu

Dyddiad cau: Ebrill 22
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwiliadau

Dyddiad cau: Ebrill 22
Cymwysterau Cymru

Swyddog Polisi Rheoleiddio

Dyddiad cau: Ebrill 14
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau Bwrdd

Dyddiad cau: Ebrill 16
Ombwdsmon Cymru

Pennaeth Gwasanaethau TG

Dyddiad cau: Ebrill 8
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Marchnata (Cymraeg yn Hanfodol)

Dyddiad cau: Ebrill 5
Menter a Busnes

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth)

Dyddiad cau: Ebrill 2
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau

Dyddiad cau: Ebrill 11

Cylchlythyr