Mae Eluned Grandis – sy’n hanu o Landdarog – yn gobeithio defnyddio ei phrofiad ieithyddol helaeth yn ei swydd newydd fel Darlithydd y Gymraeg gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bu Eluned yn diwtor achlysurol gyda’r Brifysgol cyn iddi gael ei phenodi ar gyfer swydd addysgu lawn-amser, ac ers rhai misoedd bellach mae wedi mwynhau ei swydd yn addysgu, creu adnoddau a chydlynu prosiectau ar ran y ganolfan Gymraeg newydd yn y Drindod. O loywi iaith staff y Brifysgol, i gynnal cwrs sabothol a chyrsiau iaith i athrawon ysgolion cynradd, mae digon o amrywiaeth yn y gwaith i gadw Eluned ar flaenau ei thraed.
Ond mae hi’n fwy nag arbenigwr ar y Gymraeg yn unig. Yn ogystal â threulio cyfnod yn dysgu Sbaeneg a Ffrangeg yn Ysgol y Strade, mae hefyd wedi treulio 5 mlynedd yn byw ac yn gweithio ym Mhatagonia. Aeth allan i’r Andes am y tro cyntaf yn 2010 yn rhan o Brosiect Dysgu Cymraeg yn y Wladfa, yna dychwelodd yno yn 2013 lle bu’n rhannu ei hamser rhwng gwaith addysgu (o ddysgu trwy chwarae gyda phlant meithrin, i hyfforddi oedolion ar gyfer arholiadau CBAC ail iaith, i drafod llenyddiaeth gyda siaradwyr iaith gyntaf) a gwaith cymdeithasoli iaith. Bu’n gweithio am dair blynedd yno fel Swyddog Datblygu’r Iaith, a than ddiwedd 2016 bu’n athrawes ran-amser yn Ysgol Y Cwm, Trevelin a bu’n dysgu Saesneg yn Ysgol Puerta del Sol, Trevelin.
Ers dod yn ôl i Gymru, mae’n llwyddo i fodloni ei hoffter o ieithoedd gan fod fwy iaith i’w clywed yn y cartre’ – nid Cymraeg a Saesneg, ond Cymraeg a Sbaeneg. Archentwr sy’n siarad Cymraeg yw ei gŵr, Eseia, a gwnaethon nhw briodi a chael dau o blant tra’r oedden nhw’n byw yn yr Andes.
Mae stori Cymry’r Mimosa wedi creu argraff fawr ar Eluned – y Cymry a oedd, er gwaetha’r holl anawsterau a heriau, wedi cadw eu gobaith a’u ffydd yn gadarn i’w cynnal yn y gwaith. Mae’n siŵr y bydd y ffydd a’r gobaith hwnnw’n ysbrydoliaeth i Eluned wrth iddi basio’r brwdfrydedd am y Gymraeg ymlaen i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, staff ac unigolion sy’n mynychu ei chyrsiau. Pob hwyl iddi gyda’r gwaith.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.