Eryl Jones sy’n dangos y cerdyn coch i hiliaeth

Mae gweithiwr ieuenctid a chyn-aelod o fand Jen Jeniro wedi’i benodi’n Weithiwr Addysg i daclo hiliaeth yn y gogledd.

Mae gweithiwr ieuenctid a chyn-aelod o fand Jen Jeniro wedi’i benodi’n Weithiwr Addysg i daclo hiliaeth yn y gogledd.

Ers mis bellach, mae Eryl Jones o Gapel Garmon ger Llanrwst wedi bod yn cynnal gweithdai gyda Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, gan gryfhau presenoldeb yr elusen yn y gogledd. Mae wedi bod yn gyfrifol am gynnal digwyddiadau a gweithdai i blant a phobl ifanc yn arbennig, mewn ysgolion a chlybiau chwaraeon.

ADDYSG YW’R ALLWEDD

“Diffyg gwybodaeth a diffyg dealltwriaeth sydd wrth wraidd mwyafrif y broblem ymysg plant a phobl ifanc,” medd Eryl. “Mae llawer yn cael eu dylanwadu gan agweddau eu rhieni a gan rai adrannau o’r wasg Brydeinig, felly rydym yn credu mai drwy addysg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o daclo’r peth.”

Mae Eryl o’r farn bod addysgu a cheisio cymhathu pobl ifanc yn ffordd fwy effeithiol o newid y sefyllfa, yn hytrach na cheisio gorfodi unigolion i beidio â bod yn hiliol.

HILIAETH YNG NGHYMRU HEDDIW

Yn ôl Eryl, mae’r sefyllfa o ran hiliaeth yng Nghymru yn ymddangos yn well nag ydoedd rhyw 30 mlynedd yn ôl, ond mae Brexit wedi gwaethygu pethau cryn dipyn. Yn wir, ers i’w gariad symud i Gymru o’r Ariannin mae wedi sylwi bod mwy o xenophobia a hiliaeth yn ei ardal leol, a sylwi bod troseddau casineb wedi cynyddu ers pleidlais Brexit. Mae’n awyddus i wneud ei ran er mwyn helpu i wella’r sefyllfa.

Bydd Eryl yn cyfuno’r gwaith newydd gyda’i swydd ran-amser fel Gweithiwr Ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, lle mae’n cynorthwyo â’r clybiau gyda’r nos, ynghyd â’i waith gwirfoddol yng nghymuned Bro Garmon. Pob hwyl iddo gyda’r gwaith gwerthfawr yma.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

 

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr