Ffion Evans i greu e-adnodd newydd i helpu myfyrwyr i greu yn y Gymraeg

Fis diwethaf dechreuodd Ffion Evans ar ei chyfnod fel Swyddog Prosiect Cyfaill Celfyddyd. Bydd hi’n creu ac yn datblygu e-adnodd i roi hwb i fyfyrwyr sy’n astudio celf a dylunio i weithio a chreu drwy’r Gymraeg.

Penodi Pwy?

E-adnodd newydd i helpu myfyrwyr i greu yn y Gymraeg

Fis diwethaf dechreuodd Ffion Evans ar ei chyfnod fel Swyddog Prosiect Cyfaill Celfyddyd gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd hi’n creu ac yn datblygu e-adnodd i roi hwb i fyfyrwyr sy’n astudio celf a dylunio i weithio a chreu drwy’r Gymraeg.

CYFAILL CELFYDDYD

Bydd yr adnodd electronig ‘Cyfaill Celfyddyd’ ar gael i ddisgyblion celf Safon Uwch a myfyrwyr israddedig. Bydd yn gyfaill i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith, drwy gyflwyno’r mathau o feysydd celf y gallant eu hastudio drwy’r Gymraeg. Un elfen o’r adnodd fydd amlygu pwysigrwydd traddodiadau’r diwylliant celf yng Nghymru. Bydd hefyd yn gallu rhoi gwybod i fyfyrwyr am y cyfleoedd sydd ar gael i weithio ac astudio yn y maes.

Bydd Ffion yn cydweithio ag athrawon ac academyddion yn y pwnc yn ogystal ag arbenigwyr celf – i gasglu cynnwys ar gyfer yr adnodd, creu fideos a gwneud y gwaith dylunio.

CEFNDIR CREADIGOL

Daw Ffion i’r swydd hon ar ôl graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda gradd BA mewn Dylunio Brandiau a Hysbysebu. Mae’n mwynhau dylunio graffeg, printio ac arlunio yn ei hamser sbâr, yn ogystal ag ymweld ag arddangosfeydd lleol a chenedlaethol.

Treuliodd gyfnod yn gweithio gyda chwmnïau dylunio a marchnata yn Abertawe, ac mae hefyd wedi bod yn dylunio adnoddau a deunyddiau marchnata i’r Brifysgol yn ddiweddar. Mae’n edrych ymlaen at gyfuno ei chefndir creadigol gyda’r elfen gwbl wahanol o ddatblygu adnodd electronig, a datblygu ei sgiliau iaith ei hun ar yr un pryd.

Pob hwyl i Ffion yn ei swydd newydd yn Ysgol Gelf Abertawe!

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

 

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr