Gohebydd newydd Golwg360

Bardd a chyn-fyfyriwr MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth yw gohebydd newydd Golwg 360.

Mae Endaf Griffiths wedi dechrau ar ei swydd ers Calan, ac mae’n mwynhau cyfuno ei ddiddordeb am hanes a llenyddiaeth â newyddiadura. Mae’n cymryd lle Megan Lewis yn swyddfa Golwg yn Llambed – pob hwyl i Megan yn ei swydd newydd yn y byd cyfieithu.

Felly, pwy yw Endaf Griffiths?

Un o ble wyt ti?

O Lansawel, Sir Gâr yn wreiddiol, ond bellach yn byw yng Nghwmsychbant, Gwlad y Cardi.

Yw hi’n bwysig i ti gael swydd adre yng nghefn gwlad?

Yn sicr, ond mae’n bwysig hefyd eich bod yn mwynhau’r gwaith ei hun.

Sut beth yw bywyd gohebydd?

Bywyd a all fod yn heriol ar adegau, ond po fwyaf yr her, y mwyaf o bleser a ddaw o’i ddatrys.

Sut wyt ti’n treulio dy amser y tu fas i’r gwaith?

Darllen, gwneud yn siŵr bod fy nghloc larwm yn gweithio, a chysgu.

Beth oedd dy hoff bwnc yn yr ysgol?

Hanes

Beth yw’r ŵyl orau i ti fynd iddi?

Gŵyl Nôl a Mlân yn Llangrannog

Beth yw dy hoff air neu ddywediad?

Awê

Pwy fyddet ti’n gwahodd i dy bryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Neb, fel fy mod yn cael  y bwyd i gyd … ond o ddewis, T. Llew Jones; a’r pryd bwyd delfrydol? Cawl fel starter a stêc a tships fel prif gwrs.

Pa fath o straeon hoffet ti eu torri gyda Golwg 360?

Ar hyn o bryd, dw i’n hoff iawn o ysgrifennu straeon gwreiddiol am hanes a llenyddiaeth. Ond yn cael hwyl ar ysgrifennu straeon gwleidyddol hefyd.

Byw i weithio, neu gweithio i fyw?

Mae’r ddau’n wir, ond os ydych chi’n cael swydd yr y’ch chi’n ei wir fwynhau, yna ni fydd rhaid i chi weithio’r un diwrnod yn eich oes eto.

Beth yw dy obeithion i’r dyfodol yn y swydd?

Dysgu popeth sydd angen i newyddiadurwr wybod!

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg 360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr