Gwirfoddoli i’n gwneud ni’n hapus – swydd newydd Alud Jones

Mae Alud Owen Jones bellach wedi cwblhau ei wythnos gyntaf fel Cynorthwy-ydd Gwirfoddoli Gwledig gyda Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr, ac mae eisoes wedi bod ar hyd a lled y sir yn ceisio hybu’r ethos o weithredu er budd y gymdeithas.

Penodi pwy?

Un o Landdeusant yw Alud, a thrwy ei brofiad o weithio yn y sector gwirfoddol yn y gorffennol mae’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd gwaith gwirfoddol – nid yn unig i’r bobl sy’n cymryd rhan, ond hefyd i’n cymunedau gwledig.

Cymerodd Alud amser bant yn ddiweddar i ganolbwyntio ar ail-godi hen sgubor yng nghysgod y Mynydd Du, a chyn hynny bu’n gweithio gyda gwirfoddolwyr yn datblygu sgiliau digidol pobl dros 50 oed. Mae’n falch o gael dychwelyd i’r maes, ac mae’n gobeithio y bydd ei frwdfrydedd, ei hiwmor a’i bersonoliaeth yn gadael eu hôl ar y prosiect ac ar y gwirfoddolwyr.

Nod y Prosiect Gwirfoddoli Gwledig, sy’n cael ei gynnal gan CAVS ers mis Tachwedd y llynedd, yw gwireddu llawn botensial gwirfoddoli trwy ehangu’r cwmpas o gyfleoedd sydd ar gael, darparu hyfforddiant a hybu gwerth gwirfoddoli i’r gymuned.

Ac yn ôl Alud, mae’n werth i bawb wneud ychydig o wirfoddoli – gallai fod yn gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd, neu wella eich CV, ond yn bwysicach fyth gallech elwa o’r hapusrwydd sy’n dod o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. A oes angen rheswm gwell?

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr