Iestyn Wyn a’i swydd ddelfrydol yn “gwneud gwahaniaeth” i bobl LHDT

Pan ofynnodd Golwg i Iestyn beth yw diben ei swydd newydd fel Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil Stonewall Cymru, ei ateb oedd “pedair wythnos i fewn i’r swydd ac mae’n barod wedi bod yn gyfnod prysur, felly oes ganddo chi drwy’r dydd?”

Heb os, mae hon yn swydd amrywiol a phwysig – un funud mae’n cynllunio ymgyrchoedd ac yn trefnu presenoldeb yr elusen mewn digwyddiadau ledled y wlad, a’r funud nesaf mae’n dylanwadu ar wleidyddion i greu newidiadau deddfwriaethol.

A’r ysfa i wneud gwahaniaeth er lles hawliau pobl LHDT yma yng Nghymru, a thu hwnt, a’i hysgogodd i ymgeisio am y swydd hon a symud ymlaen o’i swydd flaenorol, lle bu’n gyfrifol am bontio gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda phobl ifanc Cymru.

Oes her?

Yr her sy’n wynebu pobl LHDT ar hyn o bryd, ym marn Iestyn, yw’r naratif gwleidyddol prif-ffrwd sy’n annog gwahaniaethu. Mae troseddau casineb ar gynnydd, ac mae ef ei hun wedi cael profiad o ddioddef gwahaniaethu am ei fod yn berson LHDT. Digon o heriau felly, ond mae Iestyn yn gweld digon o gyfleoedd gyda Stonewall – y brif elusen LHDT yng Nghymru – i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiadau bywyd pobl a chreu cydraddoldeb yn ein cymdeithas.

Pa wahaniaeth?

“Mae gan bawb yr hawl i fyw gan fynegi eu personoliaethau, eu hunaniaeth, rhywedd neu rywioldeb heb fod yn darged i wahaniaethu ac anghyfiawnder ar sail hynny” yw cri Iestyn. Felly pa wahaniaeth y mae am ei wneud yn ei swydd newydd? Wel, helpu i chwalu anghyfiawnder ac anghydraddoldebau, er lles pobl LHDT, trwy weithredu ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Ac er ei fod yn cyfaddef bod Cymru wedi bod ar flaen y gad fel lle cynhwysol o gymharu â chynifer o wledydd eraill ar draws y byd, mae’n ein hannog i beidio â theimlo’n “hunanfodlon” â’r sefyllfa, gan fod ymchwil Stonewall yn peri pryder o bryd i’w gilydd, ac yn dangos bod gwaith i’w wneud o hyd.

Mae’n olynu Mabli Jones yn y swydd, sydd wedi mynd i weithio i Blaid Cymru yn y Cynulliad. Ac yn ôl Iestyn, mae’n llwyr ymwybodol bod ganddo “esgidiau mawr” i’w llenwi…a rhai “glamorous” ar ben hynny!

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr