Mae’n flwyddyn newydd ac yn ddechrau newydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Teilo Sant yn Llandeilo, wrth iddi groesawu Pennaeth newydd yr wythnos hon. Aled Rees sy’n ateb cwestiynau ‘Jest y Job’ yn y rhifyn cyntaf o Golwg yn 2018…
Un o ble ydych chi?
Rwy’n dipyn o fwngrel a dweud y gwir – cefais fy ngeni yng Nghaerdydd ond fy magu yn Borth ger Aberystwyth gan fynychu Ysgol Gynradd Rhydypennau, Bow Street ac Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth. Yna fe symudom fel teulu i Bentrecagal ger Castellnewydd Emlyn ac mi fynychais Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul cyn mynd ‘nôl i’r Brifysgol yn Aberystwyth. Rwyf wedi ymgartrefu bellach ym Mhorthyrhyd, Cwm Gwendraeth.
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?
Rwyf wedi derbyn swyddi ym myd addysg ers i mi gymhwyso yn athro gan gael cyfnodau yn Ysgol Trefonnen, Llandrindod, Ysgol Tyle’r Ynn, Llansawel, treulio cyfnod fel Athro Bro yn ysgolion Nedd a Phort Talbot, cael swydd ddysgu yn Ysgol Gymraeg Tirdeunaw, Abertawe a threulio cyfnod o ddeng mlynedd yn Ysgol Llangadog fel Dirprwy i ddechrau ac yna’n Bennaeth yno ers rhyw saith mlynedd.
Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Mae gen i bedwar o blant ac mae’r nosweithiau a’r penwythnosau yn aml yn golygu eu hebrwng i ymarferion a gemau chwaraeon ayyb ond rwy’n ceisio sicrhau fy mod yn neilltuo digon o amser ar gyfer fy hunan hefyd. Rwy’n un o sefydlwyr ac arweinwyr Adran y Neuadd Fach, Porthyrhyd, rwy’n cyfrannu yn achlysurol i Ffermwyr Ifainc Llanddarog pan mae angen help ar gyfer Eisteddfodau ayyb, rwy’n aelod o Ddawnswyr Talog, yn helpu i hyfforddi tîm pêl-droed Drefach dan 11 oed, yn aelod o Gôr Bois y Castell ac mae gen i docyn tymor ym Mharc y Scarlets.
Sut ydych chi’n hoffi eich paned?
Fy nghoffi yn ddu a’r te yn gryf – ac yn yr ysgol mae gen i fwg Jac y Jwc a Jini!
Beth yw eich swydd orau hyd yn hyn?
Y swydd fwya’ diddorol oedd yr un fel Athro Bro – cyfle gwych i fynd o ysgol i ysgol yn hybu a dysgu’r Gymraeg. Roedd yn fraint cael ymweld â chymaint o ysgolion ac yn rhyfeddol pa mor wahanol roedd awyrgylch yn yr ysgolion hynny’n gallu bod wrth fynd o un i un. Byddwn yn argymell i unrhyw athro i geisio ymweld â chymaint o ysgolion ag sy’n bosib – fe ddysgais cymaint yn ystod y cyfnod hwn wrth gael blas ar arferion amrywiol o fewn yr ysgolion hyn.
Beth yw eich hoff air neu ddywediad?
Fel cefnogwr pybyr o dîm Cenedlaethol Pêl-droed Cymru rwy’n hoff iawn o’u harwyddair ‘Gorau Chwarae Cyd-Chwarae’. Mae’n crisialu’r ethos angenrheidiol ar gyfer unrhyw dîm neu sefydliad ac fe welwyd budd y cydweithio yma ym Mhencampwriaethau’r Euros yn Ffrainc y llynedd. ‘Na le o’dd Cenedl gyfan #TogetherStronger
Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?
Mae profedigaethau yr wyf wedi eu profi wedi dysgu i mi pa mor frau a byrhoedlog mae bywyd yn gallu bod. Mor rhwydd yw hi i anghofio hyn yn ein bywydau bob dydd a cholli golwg ar bersbectif. Rhaid gwneud y mwyaf o bob cyfle a pheidio difaru dim. Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus o’r teulu, athrawon a ffrindiau sydd wedi fy nghynorthwyo ar hyd y daith hyd yn hyn ac yn benderfynol o geisio rhoi ‘nôl cymaint ag sy’n bosib i’r genhedlaeth nesaf.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol?
Does dim yn well gen i na chael y teulu o gwmpas y bwrdd swper a chyfle i drafod sut mae pethau wedi mynd gyda phawb yn ystod y dydd. Dydw i ddim yn meddwl y buaswn i’n newid y cwmni ond pe byddai modd cael rhywun i baratoi’r bwyd a gwneud y llestri ar ôl i ni orffen bydden i’n ddiolchgar iawn!
Beth yw’r ŵyl orau i chi fynd iddi?
Yn aelod o Ddawnswyr Talog ry’n ni wedi ymweld â nifer o ŵyliau dawnsio. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon a chael croeso gwych a chael y cyfle i gymysgu ag artistiaid Celtaidd eraill. Yn ogystal a suddo ambell beint o Guinness!
Byw i weithio, neu gweithio i fyw?
Cyfuniad o’r ddau a chymedroldeb ym mhopeth!
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg 360