Os daw’r plant adref o’r ysgol gan ddweud eu bod nhw wedi bod yn dysgu am ddiogelwch tân, mae’n bosibl mai Alice Evans roddodd y wers bwysig honno iddynt. Dechreuodd Alice ar ei swydd fel Swyddog Addysg Gymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a’r Gorllewin bythefnos yn ôl, ond yn ei hamser sbâr mae’n dipyn o giamstar ym myd y campau hefyd…
Un o ble ydych chi?
O Aberystwyth yn wreiddiol, ond fel teulu ry’n ni wedi byw yn Llandrindod ac rwyf nawr yn byw yn Aberhonddu.
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?
Astudio am radd BSc mewn Perfformiad Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?
Cymryd rhan mewn chwaraeon – rygbi a futsal. Dwi’n chwarae rygbi i Gaerfaddon a futsal i Wrecsam, felly mae’n dipyn o deithio. Dwi hefyd yn hoffi treulio amser gyda fy ffrindiau a fy mhartner – unrhyw beth i gadw’n brysur.
Beth yw eich swydd orau a’ch swydd waethaf hyd yn hyn?
Y swydd orau oedd pan ges i gontract yn Sardinia, yn yr Eidal, i chwarae futsal yn broffesiynol. Roedd pob dydd yn cynnwys hyfforddiant, mynd i’r gampfa, gemau ac ymlacio ar y traeth – cefais amser grêt! Y swydd waethaf dwi wedi’i chael yw gweithio mewn ‘rooftop bar’ pan oeddwn yn y Brifysgol – roedd hi mor oer dros y gaeaf!
Rhowch syniad i ni o ddiwrnod arferol yn eich swydd newydd
Mae amrywiaeth i bob diwrnod wrth weithio i’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Trwy fy swydd dwi’n gweithio mewn ysgolion, yn helpu allan gyda’r Urdd, yn mynychu Sioe Frenhinol Cymru a llawer mwy. Rwyf hefyd yn siarad gyda phobl yn y gymuned am ddiogelwch tanau yn y cartref, yn trafod cynlluniau dianc, yn profi larymau mwg bob wythnos yn ogystal â chyd-weithio â phobl ifanc i helpu i newid ymddygiad ynglŷn â throseddau tân.
Beth yw eich hoff air?
Cwtsh! Dwi’n gwneud siŵr bod fy ffrindiau di-Gymraeg i gyd yn dysgu’r gair ac yn ei ddefnyddio yn lle’r fersiwn Saesneg!
Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?
Es i allan i Zambia yn 2015 i fod yn wirfoddolwr am ddeufis mewn cartref plant amddifad ac ysgol. Y wers fwyaf nes i ei dysgu oedd i fod yn hapus a mwynhau bywyd – rydym ni mor lwcus yn y wlad yma o gymharu â Zambia! Roedd yr ardal mor dlawd ond roedd y plant mor hapus, er nad oedd unrhyw bethau ganddynt. Gwnaeth yr agwedd yma fy ysbrydoli i weld pob dydd drwy lygaid y plant – i fwynhau pob dydd ac i werthfawrogi hapusrwydd a’r pethau bach yn fy mywyd. Mae bywyd yn llawer rhy fyr i beidio joio!
Beth yw eich gobeithion i’r dyfodol yn y swydd?
Dwi’n edrych ymlaen at yr her – i ddysgu llawer fy hunan a hyrwyddo negeseuon diogelwch a negeseuon addysgiadol i’r gymuned. Y cynllun yn y dyfodol yw cael hyfforddiant pellach a chyflwyno cais i fod yn ddiffoddwr tân ar alwad.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360 ac yn ein egylchlythyr swyddi.