Mae Catrin Evans bellach wedi setlo yn ei swydd yn un o ysgolion cynradd Cymraeg y brifddinas…
Enw: Catrin Evans
Swydd: Dirprwy Bennaeth Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd, Caerdydd
Arwyddair yr ysgol: Cofia ddysgu byw
Un o ble ydych chi?
Cefais fy magu yng Ngheredigion mewn pentref o’r enw Llandysul gan fynychu yr ysgol gynradd yn y pentref. Yna fe es i ymlaen i fynychu Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul cyn mynd i’r Brifysgol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Rwyf wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers tua wyth mlynedd bellach.
Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?
Rwyf wedi derbyn swyddi ym myd addysg ers i mi gymhwyso yn athrawes gan ddechrau fy ngyrfa yn Ysgol Gynradd Aberaeron. Wedi hyn mi wnes i dreulio cyfnod fel Athrawes yn Ysgol Brynonnen ym Mhont-y-pŵl cyn mynd ymlaen i fod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg y Ffin, yng Nghil-y-coed.
Beth yw eich hoff air neu ddywediad?
“Mae popeth yn digwydd am reswm.”
Dwi’n gredwr cryf mewn ffawd ac yn teimlo bod yna wers i bopeth sydd yn digwydd mewn bywyd. Dwi’n ceisio byw bywyd i’r eithaf oherwydd mae’n llawer rhy fyr i beidio mwynhau bob munud!
Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?
Es i allan i Lesotho yn Ne Affrica i ymweld ag ysgol ac i aros mewn cartref gyda theulu tlawd. Y wers fwyaf nes i ei dysgu oedd i fod yn ddiolchgar am bopeth sydd gen i yn fy mywyd – rydym ni mor lwcus yn y wlad yma o gymharu â Lesotho! Roedd yr ardal mor dlawd ond roedd y plant mor hapus. Mae angen gwerthfawrogi’r profiadau a’r pethau bach sy’n digwydd mewn bywyd.
Eich hoff gân?
Mae sawl cân yn dod â llwyth o atgofion hapus i mi. Dwi wrth fy modd yn teithio’r byd ac un gân yn enwedig sydd wedi aros gyda fi yw Mumford and Sons “Lion Man”– atgofion o wyliau braf yn teithio mewn llong hwylio ar draws y Whitsundays yn Awstralia. Roedd yr haul yn gwenu’n braf a’r gwynt yn chwythu yn fy ngwallt. Wrth edrych o gwmpas roedd traethau gwyn a’r môr yn disgleirio! Teimlad o fod mewn paradwys llwyr!
Sut ydych chi’n hoffi eich paned?
Yn boeth! Erbyn i mi gael amser i’w yfed yn y dydd mae fel arfer wedi troi’n oer! Dwi’n yfed fy nghoffi yn ddu ac mae fy nhe fel arfer yn un mintys.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg