Jest y Job i Carys Ifan… a jest y cyfarwyddwr sydd ei angen ar yr Egin

Carys Ifan, sydd bellach yn byw yn Llangrannog, sy’n ateb cwestiynau Golwg360 ers cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Canolfan yr Egin.

Enw:

Carys Ifan

Swydd newydd:

Cyfarwyddwr Canolfan S4C Yr Egin, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Beth fues ti’n ei wneud cyn y swydd hon?

Rwy’ wedi gweithio ym myd y diwydiannau creadigol ers tua ugain mlynedd, yn gwneud swyddi amrywiol o reoli llwyfan i farchnata, yn Uwch Gynhyrchydd ac yn 2il Gyfarwyddwr Cynorthwyol.  Bûm yn gweithio’n llawrydd, yn barhaol i gwmnïau megis Cwmni Theatr Arad Goch a Theatr Genedlaethol Cymru ac yn rhyngwladol i Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant.

Sut wyt ti’n treulio dy amser y tu allan i’r gwaith?

Gan amlaf ar y traeth yn Llangrannog yn chwarae pêl-droed, adeiladu cestyll tywod, mâs ar y padlfwrdd, cerdded y ci neu’n bwyta hufen iâ ferrero rocher o Gaffi Patio.

Sut wyt ti’n hoffi dy de / coffi?

Te du plis! (Dim coffi – ych)

Beth yw dy swydd waethaf hyd yn hyn?

Tynnu ragworts o gaeau Dad. O’dd e ‘mond yn fodlon talu 1c am bob planhigyn a ddim yn fodlon talu os nad oedd y gwreiddyn wedi ei dynnu.

A dy swydd orau?

Lot fawr o swyddi gwych gyda lot fawr o bobl dalentog a chreadigol. Anodd iawn dewis, mae “Darn o Dir” (Apollo), “Y Bont” (Theatr Genedlaethol Cymru) ac “Amazing Grace” (Wales Theatre Company) yn uchel iawn ar y rhestr.

Beth yw yr Egin?

Canolfan Greadigol, Digidol a Diwylliannol newydd yw Canolfan S4C Yr Egin.   Yn bencadlys newydd i S4C bwriad y ganolfan yw creu cymuned greadigol o ansawdd a statws rhyngwladol. O ran yr adeilad bydd gofodau perfformio, caffi ac adnoddau ar gyfer eu llogi ar lawr gwaelod Yr Egin gydag ystod o swyddfeydd ar gyfer S4C, partneriaid a gweithwyr llawrydd ar y ddau lawr arall. Yn sgil hyn oll daw buddiannau ieithyddol, diwylliannol, economaidd a chymdeithasol i Gaerfyrddin a’r De Orllewin a chyfle i sbarduno ac egnïo mudiadau cymdeithasol a chymunedau amrywiol ar draws y rhanbarth.

Pam wnes ti benderfynu ymgeisio i fod yn Gyfarwyddwr yr Egin?

Roedd y swydd yn apelio ataf am nifer o resymau, dwi wedi troedio rhwng theatr, teledu a digwyddiadau byw erioed ac felly dyma’r swydd berffaith i mi. Mae’r cyfle i hwyluso datblygu clwstwr creadigol yng Ngorllewin Cymru yn apelio ataf yn fawr, rwy’n mwynhau cydweithio a chreu partneriaethau ac yn un sy’n gweld y cyfleon bob tro. Mae’r gwydr wastad yn hanner llawn! Atyniad arall oedd y cyfle i gefnogi twf yr iaith ac amlygu y gweithgarwch creadigol iaith Gymraeg. Dwi hefyd wrth fy modd yn rhaglenni digwyddiadau ac yn edrych ymlaen at roi rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau gwreiddiol a chreadigol at ei gilydd ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol Yr Egin.  Hoffwch dudalen Facebook Canolfan S4C Yr Egin a dilynwch ni ar @yr_egin am y diweddaraf! Mae’n amlwg yn barod bydd byth dau ddiwrnod yr un fath a dyna’n union o’n i wedi ei ddeisyfu.

Beth wyt ti’n gobeithio ei gyflawni yn y swydd?

Datblygu ymwybyddiaeth cymunedau, plant a phobl ifanc y Gorllewin yn y cyfoeth sydd gennym, o’n treftadaeth ddiwylliannol i’r cyfleon digidol. Sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r ystod o swyddi sydd ar gael yn y diwydiannau creadigol, sut i fynd ati i ganfod gwaith yn y diwydiant neu ddechrau ar liwt eu hunain.

Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda thîm y Drindod Dewi Sant, staff S4C a phartneriaid amrywiol i greu canolfan sy’n ysbrydoli, yn ennyn balchder ac yn gartref i bawb.

Rwyt ti’n adnabyddus fel person creadigol sydd wedi llwyddo i godi gweithgarwch arbennig yn dy gymuned leol – yw galluogi cymunedau i greu yn bwysig i ti?

Ydi, yn hynod bwysig i mi. Mae creu fel cymuned yn cynnig y cyfle i archwilio, adnabod, cydweithio a datblygu. Rwy’n credu’n gryf bod angen i gymunedau creu a dathlu er mwyn medru cyfathrebu’n hyderus â’i gilydd ac eraill.

Dwi wedi gweld yn rhywle dy fod ti’n dathlu dy ben-blwydd yn 40 ‘leni ac yn bwriadu ymweld â 40 gŵyl! Ble wyt ti’n edrych mlân i fynd iddo?

Dyna yw’r bwriad ond dwi ‘mond ar rif 6 ar hyn o bryd a 34 arall i fynd cyn diwedd y flwyddyn…! Wrth reswm dwi’n edrych ymlaen at Gŵyl Nôl a Mlan (methu credu bod yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 eleni!) a Gŵyl y Cynhaeaf yn Aberteifi fis Medi. Dwi wedi cael tocynnau i weld Gruff Rhys a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fel rhan o arlwy Gŵyl y Llais, wedi archebu lle mewn 3 ‘gŵyl’ rhedeg llwybrau, Gŵyl Ddigidol Caerdydd ac yn gobeithio mynd i Kendall Mountain Festival.  Bydd siŵr o fod un ŵyl tramor hefyd cyn diwedd 2018!

Hoff air neu ddywediad?

Beth am fynd am drip i Lland’och?

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360 ac yn Golwg.

 

Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3

Cylchlythyr