Jest y Job i Carys Tudor gyda’r Theatr Gen

Mae Carys Tudor wedi’i phenodi’n Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma gyfle i Golwg360 ddod i’w hadnabod yn well…

Mae Carys Tudor wedi’i phenodi’n Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma gyfle i Golwg360 ddod i’w hadnabod yn well…

Beth fues ti’n ei wneud cyn y swydd hon?

Roeddwn i’n Archifydd gyda BBC Cymru Wales, a threuliais gyfnod mamolaeth yn gweinyddu a marchnata gyda Theatr Bara Caws cyn hynny.

Pam wnes’ ti benderfynu ymgeisio am y rôl yma?

Ar ôl gadael Theatr Bara Caws, roeddwn i’n gweld eisiau byd y theatr yn fawr a bod yn rhan o natur gyffrous a byw y sector, ac yn ysu am gael dychwelyd.

Beth yw’r peth gorau am y swydd?

Dwi’n mwynhau cael cwrdd â phobl newydd o gefndiroedd gwahanol a difyr, ac mae’n gyfle da i mi ddysgu mwy am y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Beth yw’r cyfleoedd ym maes marchnata ar hyn o bryd?

Mae yna gyfle i farchnata ym mhob man, ym mhob sgwrs a thu ôl i bob dishgled o de, ac mae cydweithio ar brosiectau yn hollbwysig.

Sut wyt ti’n hoffi dy ddishgled?

Te gwyn plîs – fel mae’n dod, ’sa i’n ffyslyd. Ond os coffi, coffi iawn – dim instant diolch!

Sut wyt ti’n treulio dy amser y tu allan i’r gwaith?

Dwi’n hoff iawn o goginio, a cheisio dod o hyd i fariau coctêl a jazz newydd i ymweld â nhw!

Oes gen ti hoff far jazz?

Dwi wrth fy modd yn mynd i Bootlegger ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd ar nos Wener ar hyn o bryd!

Beth yw’r wers orau ti wedi’i ddysgu erioed?

Cym’ dy hapusrwydd a rhed nerth dy draed.

A oes ffaith amdanat ti nad oes llawer o bobl yn ei wybod!?

Dwi wrth fy modd â chaneuon Motown, Aretha Franklin sydd ar loop gen i yn y car ar hyn o bryd!

Oes gen ti unrhyw gyngor i eraill?

Ymgeisiwch am unrhyw swydd sy’n apelio atoch – mae’r cyfle cyffrous nesaf rownd y gornel.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr