Elen Davies a Liam Ketcher yw Newyddiadurwyr dan hyfforddiant newydd ITV Cymru.
Dod i ‘nabod Elen Davies
Un o ble wyt ti?
O Bencader ger Caerfyrddin.
Rho syniad i ni o ddiwrnod arferol yn dy swydd newydd
Un diwrnod dwi’n ymchwilio a gwneud galwadau ffôn a’r nesa yn ffilmio protest Donald Trump yn Llundain. Dwi’n dwli ar y ffaith fy mod i’n dod i’r gwaith heb wybod pa her fydd o’m mlaen i’r diwrnod hwnnw.
Pam dy fod ti am fod yn newyddiadurwr?
Mewn oes lle mae ansicrwydd gwleidyddol, dwi’n credu ei bod hi’n bwysicach nag erioed cwestiynu a chraffu ar y rhai hynny mewn awdurdod, a chynrychioli pobl ar lawr gwlad. Dwi hefyd yn credu ei bod hi’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn newyddiadurwr. Lle mae troi cefn ar newyddion traddodiadol, mae’r swydd wedi esblygu i fod yn un aml-gyfrwng, ddigidol, yn swydd sy’n symud gyda’r oes.
Beth yw dy swydd waethaf hyd yn hyn?
Swydd haf mewn swyddfa lle nad oedd y gweithwyr yn ymdrechu i ddweud ‘Elen’ ond yn hytrach yn fy ngalw’n ‘Allan’ am WYTH WYTHNOS!
Sut wyt ti’n cadw’n heini?
Cwestiwn da…
Beth oedd dy hoff bwnc yn yr ysgol?
Drama! Dim ond tair ohonom oedd yn ei astudio a’r tair ohonom yn ffrindie gore… gallwch chi ddychmygu faint o waith oedd yn digwydd yn y gwersi.
…a dod i ‘nabod Liam Ketcher
Un o ble wyt ti?
Boi o’r cymoedd ydw i, yn wreiddiol o Faesteg, a newydd symud yn nôl gartref ar ôl graddio o’r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Sut wyt ti’n treulio dy amser y tu allan i’r gwaith?
Wel, ar hyn y bryd dwi’n bennaf yn ymlacio gan nad ydw i wedi arfer â gweithio diwrnodau hir! Ond fel arfer dwi’n mwynhau treulio amser gyda ffrindiau a gwylio a chwarae rygbi.
Pam dy fod ti am fod yn newyddiadurwr?
Des i lawr am gyfnod o waith gydag ITV haf diwethaf gyda’r cyfle i weithio ar y rhaglen materion cyfoes Saesneg, Wales This Week. Yn bennaf, gweithiais ar y rhaglen am ddigartrefedd ‘Homeless: Stories from the Street’. Ar ôl i’r bennod gael ei darlledu clywais gan un o’r cynhyrchwyr fod un o’r bobl ddigartref a gafodd gyfweliad yn ystod y rhaglen wedi cael cynnig rhywle i fyw gan rywun a oedd yn gwylio. Dyma oedd yn cadarnhau i fi fy mod i moen bod yn newyddiadurwr – y cyfle i newid bywydau pobl arferol.
Pe tase ti’n cael gwneud dy gyfweliad delfrydol, pwy fyddet ti am gyfweld?
Bydde cyfweld ag arweinwyr pleidiau Cymreig yn brofiad anhygoel adeg etholiadau’r Cynulliad! Ond bydde cyfweld â Piers Morgan yn ddiddorol hefyd – hoffen i ddangos iddo sut mae cyfweld â rhywun go iawn!
Beth yw dy obeithion i’r dyfodol yn y swydd?
Dwi’n gobeithio y bydd cynnwys materion cyfoes Hansh yn dod yn ffefryn i bobl ifanc Cymru, ac y bydda i ac Elen yn medru herio’r rheiny sy’n atebol yn ein cymdeithas heddiw.
Cafodd y swyddi yma eu hysbysebu ar Golwg360.