Jest y Job i Gayle Shenton, sydd am i blant “ddarganfod bod dysgu’n hwyl”

Gayle Shenton yw Pennaeth newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd

Enw:

Gayle Shenton

Swydd newydd:

Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd

Un o ble ydych chi?

Cefais fy ngeni yn Bletchley yn Milton Keynes ac yna symudodd y teulu nôl i fyw yng Nghastell-nedd pan oeddwn i’n ddwy flwydd oed.

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?

Roeddwn yn Bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw, Abertawe.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Gyda’r teulu yn cerdded y ci neu’n joio gyda ffrindiau. Rwy’n dwli mynd i’r sinema hefyd.

Sut ydych chi’n hoffi eich paned?

Te du, neu os yn bosib te blas mint.

Beth yw eich swydd waethaf/orau hyd yn hyn?

Yn ifanc cefais nifer o brofiadau diddorol o ran swyddi ac mae’r rheini oll wedi sicrhau fy mod yn gwerthfawrogi’r ffaith fod gen i swydd sydd mor amrywiol o ddydd i ddydd.

Beth oedd eich hoff bynciau yn yr ysgol?

Celf a cherdd.

Beth yw eich hoff air neu ddywediad?

Serennog!

Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?

Yn y Saesneg ‘Take the path of least regret’.

Pwy fyddech chi’n eu gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Teulu a ffrindiau yn mwynhau BBQ a glased o ffizz.

Sut ydych chi’n cadw’n heini?

Cerdded a seiclo, ond fy hoff beth yw nofio.

Pa lyfr sydd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?

Mwy nag un. Fy hoff lyfr yw’r ‘Time Travellers Wife’.

Beth yw eich gobeithion i’r dyfodol yn y swydd?

Fel cyn-ddisgybl yn yr ysgol rwy’n gobeithio y gallaf barhau i sicrhau enw da i’r ysgol yn y gymuned a phrofiadau gwerthfawr i’r plant wrth iddynt ddarganfod bod dysgu’n hwyl.

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360 ac yn Golwg.

Tinopolis

Cynhyrchydd (Dwy swydd)

Dyddiad cau: Mai 13
Prifysgol Bangor

Cyfathrebwr Estyn Allan STEM (40% CALl)

Dyddiad cau: Mai 13
Ofcom Cymru

Cynorthwyydd Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Dyddiad cau: Mai 3
Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7

Cylchlythyr