Jest y Job i Guto Huws – Gohebydd newydd Golwg360

Guto Huws o’r Felinheli yw Gohebydd newydd Golwg360 – ond pwy yw Guto Huws?

Un o ble wyt ti’n wreiddiol, Guto?

Y Felinheli (a byth o Port Dinorwic!)

Beth fues ti’n ei wneud cyn y swydd hon?

B.A. Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, cyn gwneud M.A. yn Ysgol y Gymraeg. Y ddau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sut wyt ti’n treulio dy amser y tu allan i’r gwaith?

Gwrando ar gerddoriaeth, chwarae drymiau i fand Papur Wal, mynd i gigs. Gwylio pêl-droed, mynd ar dripiau Cymru oddi gartref, a chwarae gyda Cymric ar ddydd Sadwrn. Cymdeithasu, mynydda, gwylio ffilms, darllen, cysgu, bwyta. Ddim wastad yn y drefn honno.

Sut wyt ti’n hoffi dy baned?

Te dim shwgwr efo chydig o lefrith, neu goffi cryf ar y stôf, yn fy hoff fwg – ‘Cenedl Bêl-droed Annibynnol’.

Beth yw dy swydd waethaf hyd yn hyn?

Fy swydd waethaf oedd coginio brecwast llawn i weithwyr mewn archfarchnad yn oriau man y bore am gyfnod pan yn 18 oed.

Beth oedd y gig orau i ti fynd iddi:

Super Furry Animals yn Toulouse, noson cyn gem Cymru v Rwsia yn Ewro 2016. Mae Parquet Courts yn End of the Road Festival yn dod yn agos.

Beth yw’r wers orau i ti ei dysgu erioed?

Sut i dorri torth ffres yn berffaith.

Hoff air neu ddywediad?

“Iechydwriaeth”

Tase ti’n cael gwneud dy gyfweliad delfrydol, gyda phwy, a beth fyddet ti am ei holi?

Joe Strummer, canwr The Clash. Yn syml, sut oedd o’n ysgrifennu caneuon mor wych gan gymysgu pync, ska, a ffync. A sut brofiad gafodd o’n byw yng Nghasnewydd am gyfnod o 1973.

Beth wyt ti’n gobeithio ei gyflawni yn y swydd?

Cyflwyno storiau gwreddiol a chyffrous i bobl.

Pob hwyl i Guto yn gohebu gyda Golwg360!

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr