Jest y Job: Her newydd i Mererid Boswell gyda’r Cyngor Llyfrau

Yfory, bydd Mererid Boswell yn dechrau ar her newydd yn ei swydd fel Pennaeth Busnes a Chyllid y Cyngor Llyfrau.

Yfory, bydd Mererid Boswell yn dechrau ar her newydd yn ei swydd fel Pennaeth Busnes a Chyllid y Cyngor Llyfrau.

 

Un o ble ydych chi?

Wedi fy magu yn Llanuwchllyn ger y Bala, bues yn byw yng Nghaerdydd am 9 mlynedd cyn symud i Aberystwyth yn 2006.

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?

Pennaeth Cyllid a Menter yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Beth mae Pennaeth Busnes a Chyllid yn ei wneud?

Paratoi cyfrifon a chyflogau, sicrhau bod pawb yn cael eu talu a bod pawb ddylai ein talu yn gwneud hynny, a rhoi cefnogaeth ariannol i bob adran.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Garddio, darllen ac amrywiol dasgau gwirfoddol amrywiol fudiadau.

Beth yw eich swydd orau hyd yn hyn?

Gwerthu tocynnau mynediad ar ddydd Sadwrn yr Urdd a gweld pawb yn hoffi cael bargen am gael pris rhatach.

Hoff ddywediad?

Os helpais rywun ar fy ffordd, ni fu y daith yn ofer.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Y gŵr, Eirwen Benjamin, Mark Davies a Tomi’r gath. Dwi byth yn ffysi ynglŷn â bwyd – cwmnïaeth sydd yn bwysig.

Pa lyfr sydd ar erchwyn y gwely ar hyn o bryd?

Tom Clancy – Against All Enemies.

Oes gennych ffaith ddiddorol amdanoch nad oes neb llawer yn ei wybod?

Bu bron i mi fod yn gyfreithiwr tan i mi newid fy meddwl ar wythnos gyntaf yn y Brifysgol. Dewisais gyfrifeg am fod Accountancy yn dechrau gydag ‘A’ a dim llawer o awydd darllen y prosbectws.

Beth yw’r wers orau i chi ei dysgu mewn bywyd?

Mae yna ddwy ochr i bob stori.

Byw i weithio, neu weithio i fyw?

Gweithio i fyw – a gwnewch fywyd pawb arall yn well tra rydych chi wrthi.

Beth yw eich gobeithion ar gyfer y Cyngor Llyfrau?

Cyfnod diddorol i’r Cyngor Llyfrau gyda sialensiau newydd yn rhoi cyfle i wneud pethau mewn ffordd wahanol.

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr