Jest y job i Sian Lewis gyda’r Urdd

Gan ei bod bellach wedi hen ymgartrefu yn ei swydd fel Prif Weithredwr newydd Urdd Gobaith Cymru, yn teithio hyd a lled Cymru yn ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau ieuenctid Cymru, daeth hi’n bryd i Siân Lewis o Gaerdydd ateb cwestiynau busneslyd Golwg…

Beth fuoch chi’n ei wneud cyn y swydd hon?

Prif Weithredwr i Fenter Caerdydd a Menter Bro Morgannwg

Beth yw eich hoff atgof fel aelod o’r Urdd?

Glan-llyn yn yr 80au yn y Gwersyll Haf gyda’m ffrindiau yn joio mas draw. Atgofion hapus iawn o ddyddiau braf o Haf fel ‘city girl’ yn profi amrywiaeth o weithgareddau awyr agored am y tro cyntaf ym mhrydferthwch y Bala a Llyn Tegid.

Beth oedd eich hoff bwnc yn yr ysgol?

Siarad a chymdeithasu, yn ôl rhai athrawon!!!

Beth yw eich swydd waethaf hyd yn hyn?

Shifft nos mewn ffactori yn y Kibbutz yn ystod Haf 1988!

Eich hoff gân?

Mae sawl can yn dod â llwyth o atgofion melys i mi, ac un gân yn enwedig – Islands in the Stream – atgofion o wyliau braf gyda’r teulu ar ynys Anna Maria, Florida. Wrth roi cais mewn i’r canwr yn y dafarn ar y traeth ganu’r gân fe wnaeth fy ngwahodd i fyny i ganu gydag ef o flaen gweddill y gynulleidfa (yn erbyn fy nymuniad). Profiad na ‘neith Gary fy ngŵr na’r plant fyth anghofio!

Beth yw eich hoff air neu ddywediad?

Dwi’n hoff iawn o ddiarhebion – nid ar redeg mae aredig, a dyfal donc a dyr y garreg.

Ffilm fwyaf cofiadwy?

Grease –  oherwydd fy mod wedi ei weld 7 gwaith mewn sinemâu ar draws Caerdydd yn y 70au. Y Globe yn y Rhath oedd fy hoff sinema!

Rhowch syniad i ni o wythnos arferol yn eich swydd

Enghraifft o wythnos arferol wrth edrych yn ôl ar wythnos diwethaf fyddai cyfarfod â Chyfarwyddwyr yr Urdd yn Llandrindod i drafod gwaith ieuenctid, ymweliad â Llangrannog gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod datblygiadau yn y gwersyll, cyfarfodydd gyda WCVA i drafod cydweithio, sawl cyfarfod mewnol i drafod cyllid a staffio, cyfarfodydd gyda Chyngor Caerdydd yn ymwneud â chystadleuaeth Rygbi 7 bob ochr yr Urdd, ac ymweliad i Lanelwedd i lansio 100 diwrnod cyn Eisteddfod yr Urdd ym Mrycheiniog!

Sut ydych chi’n hoffi eich paned?

Un baned y dydd, gwan iawn ac yna dŵr cynnes gyda lemwn a sinsir ffres drwy gydol y dydd.

Beth yw eich gobeithion i’r dyfodol yn y swydd?

I wneud gwahaniaeth! Ac i sicrhau bod y mudiad yn un sy’n ganolog i fywydau pobl ifanc yng Nghymru sydd am fyw eu bywyd a mwynhau yn Gymraeg.  Sicrhau bod yr Urdd yn parhau i fod yn fudiad cyfoes sy’n ymateb i anghenion ein haelodau.

Ac un olaf, pwysig – coch, gwyn neu wyrdd?

Coch.

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg360

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr