Mae Prifysgol Caerdydd newydd benodi Jo Parry i fod yn Rheolwr cyntaf y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau.
Yn wreiddiol o’r Barri, bellach mae Jo yn byw gyda’i gŵr a’u dau o blant yn Nhrwyn y Rhws, Bro Morgannwg. Astudiodd Seicoleg ac Astudiaethau Iechyd yng Nghaerfaddon, a dros y 15 mlynedd diwethaf mae wedi cael profiadau amrywiol o weithio yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.
DARGANFOD Y CYFFUR NESA’ I WELLA IECHYD MEDDWL
Wrth holi Jo am apêl y swydd hon, ei hateb oedd “dychmygwch fod y cyffur nesa’ i wella canser neu iechyd meddwl yn cael ei ddarganfod yn ein sefydliad NI!” Mewn byd sy’n wynebu poblogaeth sy’n heneiddio, mae’r pwysau’n cynyddu i ddarganfod triniaethau a allai achub bywydau.
“Mae gen i ffrindiau ac aelodau o’r teulu sydd wedi dioddef oherwydd iechyd meddwl neu ganser yn y gorffennol” medd Jo, a dyna un o’r rhesymau pam y mae’n awyddus i fod yn rhan allweddol ac yn llysgennad i waith y Sefydliad newydd yma wrth iddo dorri tir newydd a darganfod cyffuriau a allai effeithio ar bob un ohonom.
Gobaith Jo yw y bydd y Sefydliad, fel rhan o’r Brifysgol, yn gallu denu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o’r radd flaenaf ym maes darganfod cyffuriau, gan helpu Prifysgol Caerdydd i arloesi yn y maes hwn sy’n datblygu o hyd. Mae gwaith y Sefydliad newydd hwn yn bosibl diolch i fuddsoddiad pwysig gan Brifysgol Caerdydd a chyllid drwy gynllun Sêr Cymru y Llywodraeth.
Un peth y mae Jo yn falch ohono gyda’r swydd hon yw’r cyfle y bydd yn ei rhoi iddi i barhau i ddysgu Cymraeg. Gyda chydweithwyr dwyieithog brwd a phlant dwyieithog adre’, bydd yn cael digon o gyfleoedd i ymarfer ei Chymraeg, bob awr o’r dydd!
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360 ac yn ein egylchlythyr swyddi.