Penodi Deio i fod yn llais i fyd natur

Mae RSPB Cymru wedi penodi Deio Gruffydd yn Swyddog Cyfathrebu newydd y corff cadwraeth yng Nghymru.

Mae RSPB Cymru wedi penodi Deio Gruffydd yn Swyddog Cyfathrebu newydd y corff cadwraeth yng Nghymru.

’Sgwennu straeon angerddol – dyna fydd un o dasgau Deio wrth iddo geisio codi ymwybyddiaeth o waith RSPB Cymru. Mae’n gobeithio y bydd yn llwyddo i wneud mwy na thynnu sylw at weithgarwch yr RSPB yn unig. Ei obaith yw “ysgogi ag ysbrydoli pobl i fynd allan a gwneud mwy dros natur”, gan mai trwy bobl – y gymdeithas – y mae modd gwneud gwahaniaeth go iawn.

Mae’r dyn ifanc, sy’n wreiddiol o ardal wledig Llangian ym Mhenrhyn Llŷn, wedi mwynhau gwylio adar a bywyd gwyllt ers yn ifanc, ac mae cadwraeth a byd natur yn agos iawn at ei galon. Enillodd radd meistr mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy ym Mhrifysgol Bangor. Cyn hynny, treuliodd gyfnod yn gwirfoddoli ar Ynys Enlli, lle bu’n helpu’r warden gyda’r gwaith cynnal a chadw o gwmpas yr ynys. Mae’r “profiad anhygoel” hwnnw o fod mewn ardal llawn bywyd gwyllt wedi gwneud argraff fawr arno.

Yr her i fyd natur

O newid hinsawdd i golli cynefinoedd i’n harferion niweidiol ni fel pobl – mae sawl rheswm dros y pryder cynyddol am fyd natur yn. Yn ôl RSPB Cymru, “y grefft o gyfathrebu da” sydd wedi codi ein hymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd i’r adar a’r pysgod sy’n cael eu niweidio gan blastig. Mae Deio yn gweld ei swydd newydd fel cyfle i leihau’r effeithiau niweidiol: trwy annog ac ysbrydoli pob un ohonom ni i gymryd camau bach dros natur.

Ei brif dasgau yn y swydd fydd gweithio ar brosiectau Rhoi Cartref i Fyd Natur Caerdydd a Lefelau Byw yng Ngwent, a nod y prosiectau hyn yw cysylltu pobl a chymunedau gyda’r natur a bywyd gwyllt sydd o’u hamgylch.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Cynorthwyydd Derbynfa

Dyddiad cau: Ebrill 17
Cymdeithas Eisteddfodau Cymru

Swyddog Datblygu

Dyddiad cau: Ebrill 22
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Ymchwiliadau

Dyddiad cau: Ebrill 22
Cymwysterau Cymru

Swyddog Polisi Rheoleiddio

Dyddiad cau: Ebrill 14
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau Bwrdd

Dyddiad cau: Ebrill 16
Ombwdsmon Cymru

Pennaeth Gwasanaethau TG

Dyddiad cau: Ebrill 8
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Swyddog Marchnata (Cymraeg yn Hanfodol)

Dyddiad cau: Ebrill 5
Menter a Busnes

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth)

Dyddiad cau: Ebrill 2
Llywodraeth Cymru

Penodi Aelodau

Dyddiad cau: Ebrill 11

Cylchlythyr

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.