Mae’n gyfnod newydd i Ffion Medi, sy’n gadael Theatr Felin-fach ar ôl deng mlynedd hapus i gydlynu gwaith Barddas
Ers rhai wythnosau mae Ffion Medi Lewis-Hughes wedi setlo yn ei swydd newydd fel Cydlynydd Barddas – y Gymdeithas Gerdd Dafod. Mae’n dilyn ôl traed Iola Wyn, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu’r Gymdeithas a chreu tipyn o fwrlwm o gwmpas barddoniaeth ar hyd a lled Cymru.
Bydd Ffion yn gyfrifol am farchnata, hyrwyddo a gweinyddu ar ran y Gymdeithas Gerdd Dafod, a chydweithio ag aelodau’r Pwyllgor Gwaith i gynllunio a threfnu digwyddiadau amrywiol a lansiadau cyfrolau. Yn ogystal, bydd yn llywio’r gwaith o gyhoeddi Cylchgrawn Barddas bob chwarter.
MWY NA CHYHOEDDI
Ond i Ffion, mae potensial i ymestyn gwaith y Gymdeithas i wneud mwy na chyhoeddi, ac ysgogi beirdd ifanc i ymddiddori mewn barddoniaeth. Mae’n “hyderus bod ein beirdd ifanc ni yma yng Nghymru yn mynd i allu ysgogi a deffro darpar feirdd yn ein hysgolion a’n prifysgolion i fynd amdani, a rhoi cynnig ar farddoni!”
Derbyniodd “gyfleoedd gwych” gyda’r Theatr yn Nyffryn Aeron, ac un o’r profiadau mwyaf gwerthfawr oedd gweithio gydag ystod eang o bobl o 0 i 90+ oed o wahanol gefndiroedd. Mae’n gweld cyfle i ddefnyddio ei phrofiad o ymgysylltu’n greadigol â chymunedau i ehangu gwaith Barddas. “Mae beirdd ifanc Cymru heddiw bellach yn gwneud barddoniaeth yn cŵl ac yn bersonol” medd Ffion, ac mae angen “mynd â llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg at y bobol ar lawr gwlad” – yn enwedig pobl ifanc.
TREGARON – Y LLE I FOD
Er mai merch o Ddihewyd, ac yna Dyffryn Aeron, yw Ffion, mae wedi ymgartrefu yn Nhregaron ers rhai blynyddoedd bellach ac yn byw yno gyda’i gŵr a’u dau o blant. Ac yn dilyn y cyhoeddiad y byddai Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld â’r dref wledig yn 2020, mae Ffion – sy’n un o sylfaenwyr Gŵyl Tregaroc ac yn Gadeirydd côr merched newydd lleol – yn llawn gobaith am y dyfodol. “Tregaron yw’r lle i fod, bobol! Mae’r dref yn fwrlwm gydag amrywiol fudiadau a chymdeithasau yn gweithio’n frwd dros ddenu pobol i’r ardal a chreu momentwm o fewn y dre.” Mae’n siŵr bod blynyddoedd cyffrous o flaen Tregaron, ac o flaen Barddas hefyd gyda Ffion wrth y llyw.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.