Penodi pwy? Gwyndaf Lewis yn mynd nôl gartref i’r gorllewin

Ar ôl treulio blwyddyn a hanner yn gweithio i Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a’r Urdd, mae Gwyndaf Lewis wedi cael swydd nôl gartref yn y gorllewin, fel Cydlynydd Gweithgareddau Dwyieithog yng Ngholeg Sir Gâr. Ac er mai un o Efailwen, Sir Gâr ydyw, mae’n dweud mai “un o Grymych ydw i, os ma’ rhywun yn gofyn” – gan mai yno mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser.

YMFALCHÏO YN EIN CYMREICTOD

Yn rhan o’i swydd newydd mae’n trefnu gweithgareddau yn y Coleg ar ddiwrnodau cenedlaethol Cymru – megis Santes Dwynwen, Gŵyl Ddewi a Diwrnod Shwmae Su’mae – er mwyn “codi ymwybyddiaeth o’r hyn rydym yn ymfalchïo ynddo”.

Ond mae’r swydd yn fwy na darparu gweithgareddau yn unig. Un peth mae Gwyndaf yn gobeithio ei gyflawni yw gweld mwy o bobol yn dewis cwblhau eu haseiniadau coleg yn y Gymraeg. “Os alla’ i helpu rhywun mewn unrhyw ffordd, cael un person i neud aseiniad yn y Gymraeg (mewn cwrs Saesneg) – bydd hynny’n fy ngwneud i’n falch” meddai, ac mae’n gobeithio llwyddo trwy sicrhau bod ethos a diwylliant Cymraeg y Coleg yn parhau i dyfu.

Mae heriau’n ei wynebu wrth gwrs – er gwaethaf y ddarpariaeth yn y coleg, mae rhai myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn astudio yn y Saesneg neu’n ysgrifennu eu haseiniadau yn y Saesneg gan eu bod nhw am fynd i Brifysgol y tu allan i Gymru.

CYMRYD CYFRIFOLDEB

Mae Gwyndaf yn grediniol mai’r ffordd ymlaen ar gyfer y Gymraeg yw galluogi pobl ifanc i “gymryd cyfrifoldeb” a “theimlo perchnogaeth” dros y sefyllfa eu hunain. Mae’n gobeithio y bydd y gweithdai a’r sesiynau y mae’n eu cynnal gyda’r myfyrwyr yn eu cymell i sylweddoli bod byw a gweithio yn y Gymraeg yn bosibl ac yn werth ei wneud, ac y byddan nhw’n cymryd yr awenau eu hunain yn y pen draw.

Y DYFODOL

Mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at fynychu Parti Ponty ym mis Gorffennaf – ond i joio y tro hwn! Ar ôl iddo drefnu’r bandiau yn rhan o’i swydd flaenorol, mae’n awyddus i fynd yno i fwynhau’r arlwy eleni. Mae Gwyndaf hefyd yn dal i gyflwyno ar y Sesiwn Sul ar radio digidol GTFM pob nos Sul, felly cofiwch wrando!

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360

 

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr