Penodi Pwy? Lauren Page a’i swydd newydd

Yr wythnos diwethaf ar Golwg360 Jo Parry, Rheolwr y Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd yn hawlio’r sylw ar y dudalen swyddi. Er nad yw Jo wedi dechrau ar ei gwaith eto – bydd yn cymryd yr awenau go iawn ar ddydd Calan Mai – mae Lauren Page wedi dechrau y mis yma ar ei chyfnod yn y Sefydliad. Dyma gyfle i ni ddod i adnabod Swyddog Gweinyddol y Sefydliad ychydig yn well…

Un o ble ydych chi?

Caerdydd. Es i i Ysgol Bro Morgannwg a Phrifysgol Met Caerdydd.

Pam wnaethoch chi ymgeisio am y swydd yma?

Pan welais fod siawns i fi defnyddio fy sgiliau gwyddoniaeth a fy Nghymraeg a chael siawns i weithio ar brosiect newydd, nes i neidio at y cyfle.

Beth ydych chi’n ei wneud o ddydd i ddydd?

Mae popeth mor newydd does ddim syniad ble bydd y swydd yma yn mynd, ond ar hyn o bryd rydw i’n helpu’r rheolwr a’r athrawon ysgol i sefydlu pethau. Byddaf yn gwneud tasgau gweinyddol fel dyddiaduron a threfnu cysylltiadau rhwng yr athrawon a’r sefydliad.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn hynny?

Roeddwn i yn gweithio fel gwyddonydd biofeddygol cyn y swydd yma. Rydw i hefyd wedi gweithio mewn canolfannau hamdden – yn y swyddfa ac ar y pwll. Rydw i wedi gwneud llawer o deithio hefyd cyn ac ar ôl mynd i’r Brifysgol.

Sut ydych chi’n treulio eich amser y tu allan i’r gwaith?

Yn y gym, yn y pwll nofio, a mas gyda fy nheulu

Hoff baned?

Coffi du mewn mwg ‘Beauty and the Beast’!

Beth yw eich gobeithion gyda’r swydd newydd?

Mae gan y sefydliad yma botensial i effeithio ar fywydau llawer o bobl trwy ddatblygu meddyginiaethau, ac mae’r cyfle i fod yn rhan o sefydliad fel yna yn gyffrous iawn.

Byw i weithio, neu weithio i fyw?

Gweithio i fyw!

 

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360 ac yn ein egylchlythyr swyddi.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr