Swydd yn hybu’r Gymraeg a’r economi i gyn-lywydd UMCA, Rhun Dafydd

Yn ôl Rhun Dafydd, dyw darparu addysg Gymraeg a bywyd cymdeithasol Cymraeg ddim yn ddigon – mae angen creu cyfleoedd i bobl allu gweithio yn y Gymraeg hefyd.

A hybu’r cyfleoedd hynny fydd nod Rhun yn ei swydd newydd gyda’r prosiect Marchnad Lafur Cymraeg – prosiect sy’n cael ei arwain gan Four Cymru, ar y cyd â’r Mentrau Iaith, ac sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Swydd ddelfrydol

Daw Rhun yn wreiddiol o’r Bont-faen, ac ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth cafodd ei ethol yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Yn ôl Rhun, mae hon yn “swydd ddelfrydol” iddo, fel un sydd wedi magu diddordeb mewn hybu’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n edrych ymlaen at yr her o feddwl am ffyrdd newydd o hyrwyddo’r Gymraeg fel arf economaidd, â’r nod yn y pen draw fydd creu mwy o gyfleoedd i bobl weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Pobl ifanc yn gadael

“Her fawr i’r farchnad lafur yw’r ffaith bod cynifer o bobl ifanc yn gadael y wlad a ddim yn dychwelyd nôl,” medd Rhun, gan gyfeirio at bobl ifanc yn gadael i weithio dros y ffin yn ogystal â gadael cymunedau cefn gwlad i chwilio am swydd. “Mae’n bwysig rhoi cyfleoedd i’r bobl ifanc fedru cael swydd o fewn eu cymunedau a chreu cymdeithas gyflawn.”

Mae o’r farn bod lle i ddylanwadu ar sawl agwedd ar yr economi, a thrwy gydweithio â rhanddeiliaid a sefydlu clystyrau lle mae’r Gymraeg yn gatalydd mae’n bwriadu cyfrannu at greu’r cylch cyflawn sydd ei angen er mwyn sicrhau twf y Gymraeg; mae’n cydnabod datblygiadau o ran y Gymraeg ym myd addysg ac o ran gweithgarwch cymdeithasol, ac mae’n dymuno gwneud gwahaniaeth drwy ddod â’r Gymraeg yn rhan greiddiol o’r farchnad lafur a gwaith o ddydd i ddydd hefyd.

O’r swyddfa yng Nghaerdydd yn bennaf y bydd Rhun yn gweithio, ond bydd yn teithio o amgylch y wlad yn aml hefyd. Pob hwyl iddo yn y swydd newydd, gyffrous yma.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu yn Golwg ac ar Golwg 360.

Tinopolis

Ymchwilydd

Dyddiad cau: Rhagfyr 16
YTC 4 Llan CLT

Hwylusydd Prosiect

Dyddiad cau: Rhagfyr 13
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Arolygydd Eiddo – Siaradwr Cymraeg

Dyddiad cau: Tachwedd 24
Prifysgol Bangor

Is-ddatblygwr Meddalwedd

Lleoliad: Bangor
Cyflog: £29,605 – £39,347
Dyddiad cau: Rhagfyr 1
Menter Iaith Conwy

Swyddog Ardal Wledig (Dyffryn Conwy)

Dyddiad cau: Tachwedd 25

Cylchlythyr