Jest y Job…
i Siwan Elenid Jones, sy’n cael aros yn ei milltir sgwâr er mwyn “gwneud gwahaniaeth”. Ers mis Ebrill, hi yw Swyddog Ardal Arfordirol Menter Iaith Conwy.
Beth fues ti’n ei wneud cyn dod i weithio i Fenter Iaith Conwy?
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cefais y cyfle i fynd yn ôl i’r Brifysgol i weithio ar brosiect MPhil i ddechrau ar waith archifo hanes yr Urdd, gan fynd o amgylch Cymru yn casglu atgofion o bron i ganrif o hanes y mudiad. Roedd hi’n flwyddyn arbennig, a dwi’n edrych ‘mlaen i weld yr adeiladwaith i’r prosiect yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Beth yw’r peth mwyaf cyffrous am dy swydd newydd?
Fel rhywun sy’n byw yng nghefn gwlad sir Conwy, dwi’n edrych ymlaen at ddod i adnabod ardal y glannau a’i phobl yn well, a chydweithio hefo nhw i ddatblygu’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny.
Sut wyt ti’n treulio dy amser tu allan i’r gwaith?
Unrhyw ffordd o gymdeithasu!
Sut wyt ti’n hoffi dy baned?
Te hefo llaeth… a gore po fwyaf di’r mwg!
Beth yw dy swydd waethaf hyd yn hyn?
Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio’n fy siop sglodion lleol tra’n yr ysgol a’r coleg, ond fedrwn i feddwl am lefydd gwell i fod ar ddiwrnod braf o haf na tu ôl i’r ffreiars poeth!
Beth yw’r wers orau ti ei dysgu erioed?
Mai gwên ydi un o’r arfau gorau sydd gan berson – costio dim, ond yn mynd yn bell.
Pam wnes ti ymgeisio am y swydd hon?
Yn ychwanegol i wneud y defnydd gorau o’ ngradd mewn Cymraeg a Hanes Cymru, roedd hi’n edrych yn swydd hwyliog a diddorol, ac yn gyfle i mi geisio annog pobl i siarad Cymraeg – rhywbeth dwi’n teimlo’n gryf o’i blaid. Gwell fyth fod yr ardal yn y gogledd er mwyn cael aros yn fy milltir sgwâr.
Beth wyt ti’n gobeithio ei gyflawni?
Trio fy ngorau i ddarparu’r hyn y mae’r gymuned ei angen o ran darpariaeth Gymraeg, a cheisio annog datblygiad i’r Gymraeg ar lannau Conwy mewn ffordd hwyliog a pherthnasol, a gobeithio gweld rhywfaint o wahaniaeth.
Beth yw’r un peth sydd ei angen er mwyn sicrhau bod iaith a diwylliant y Gymraeg yn parhau a thyfu?
Dwi’m yn meddwl fod o’n bosib enwi un peth penodol gan fod popeth yn bwydo’i gilydd o safbwynt parhad a thyfiant y Gymraeg yn y gymuned, ond dwi’n meddwl ei fod yn hollbwysig sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n gyfoes a pherthnasol wrth i’r byd modern ddatblygu, a sicrhau fod y cyfleoedd gwahanol trwy gyfrwng y Saesneg hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi hefyd yn credu’n gryf bod angen cefnogi ymdrechion dysgwyr Cymraeg, a sicrhau eu bod nhw’n rhan integredig o’r gymuned Gymreig.
Oes ffaith amdanat ti nad oes llawer yn gwybod?
Dwi’m yn gallu arogli – sy’n handi iawn ar brydiau!
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.