Bydd gan Goleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor bennaeth newydd erbyn yr haf, pan fydd Aled Jones-Griffith yn cymryd yr awenau. Linda Wyn yw’r pennaeth presennol ar y ddau goleg yma sy’n dod dan adain Grŵp Llandrillo Menai, ond bydd Aled yn camu i’r swydd ar ei hymddeoliad.
Mae Aled wedi gweithio ym maes addysg ers 11 mlynedd, a chyn ymuno â’r sector addysg bellach bu’n dal nifer o swyddi rheoli, gan gynnwys treulio pedair blynedd yn Brif Weithredwr Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.
Graddiodd Aled gyda gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Amgylcheddol o Brifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i ennill Tystysgrif ôl-radd mewn Rheolaeth Cefn Gwlad a Datblygiad Cymunedol. Mae’n amgylcheddwr brwd ac yn aelod o grŵp LEADER Gwynedd.
Creu cyfleoedd a gweithio gyda’r gymuned
Mae Aled yn edrych ymlaen at sicrhau bod Coleg Menai a Meirion Dwyfor “yn golegau cymunedol sydd yn parhau i wasanaethau amrywiol anghenion ein cymunedau ar draws Gwynedd a Môn”. Ei nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau, sefydliadau addysg eraill a diwydiant er mwyn creu cyfleoedd i’r dysgwyr gyflawni ym mha bynnag faes y byddant yn ei astudio gan sicrhau llwybrau dilyniant llwyddiannus iddynt.
Bwrlwm bywyd myfyrwyr
Ac mae Linda Wyn, a fydd yn ymddeol ymhen rhai wythnosau, yn ei chyfrif hi’n bleser bod wedi gweithio yn y ddau goleg, sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd. “Er fy mod yn edrych ymlaen at gyfnod newydd yn fy mywyd, yn sicr byddaf yn colli bod yng nghanol bwrlwm bywyd myfyrwyr a chael cyfle i gyfrannu at eu llwyddiant.”
Bydd Aled yn gyfrifol am wyth campws: Caergybi, Llangefni, Bangor, Parc Menai a Chaernarfon yng Ngholeg Menai a champysau Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon, Pwllheli a Dolgellau, a bydd yn dechrau ar ei swydd yn ystod yr haf.
Pob hwyl i Aled yn ei swydd, ac i Linda ar ei hymddeoliad.
Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.