Trosglwyddo’r awenau yng Ngholeg Menai a Meirion Dwyfor

Bydd gan Goleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor bennaeth newydd erbyn yr haf, pan fydd Aled Jones-Griffith yn cymryd yr awenau. 

Bydd gan Goleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor bennaeth newydd erbyn yr haf, pan fydd Aled Jones-Griffith yn cymryd yr awenau.  Linda Wyn yw’r pennaeth presennol ar y ddau goleg yma sy’n dod dan adain Grŵp Llandrillo Menai, ond bydd Aled yn camu i’r swydd ar ei hymddeoliad.

Mae Aled wedi gweithio ym maes addysg ers 11 mlynedd, a chyn ymuno â’r sector addysg bellach bu’n dal nifer o swyddi rheoli, gan gynnwys treulio pedair blynedd yn Brif Weithredwr Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn.

Graddiodd Aled gyda gradd anrhydedd mewn Astudiaethau Amgylcheddol o Brifysgol Bangor cyn mynd ymlaen i ennill Tystysgrif ôl-radd mewn Rheolaeth Cefn Gwlad a Datblygiad Cymunedol. Mae’n amgylcheddwr brwd ac yn aelod o grŵp LEADER Gwynedd.

Creu cyfleoedd a gweithio gyda’r gymuned

Mae Aled yn edrych ymlaen at sicrhau bod Coleg Menai a Meirion Dwyfor “yn golegau cymunedol sydd yn parhau i wasanaethau amrywiol anghenion ein cymunedau ar draws Gwynedd a Môn”. Ei nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda chymunedau, sefydliadau addysg eraill a diwydiant er mwyn creu cyfleoedd i’r dysgwyr gyflawni ym mha bynnag faes y byddant yn ei astudio gan sicrhau llwybrau dilyniant llwyddiannus iddynt.

Bwrlwm bywyd myfyrwyr

Ac mae Linda Wyn, a fydd yn ymddeol ymhen rhai wythnosau, yn ei chyfrif hi’n bleser bod wedi gweithio yn y ddau goleg, sydd wedi bod mor llwyddiannus dros y blynyddoedd. “Er fy mod yn edrych ymlaen at gyfnod newydd yn fy mywyd, yn sicr byddaf yn colli bod yng nghanol bwrlwm bywyd myfyrwyr a chael cyfle i gyfrannu at eu llwyddiant.”

Bydd Aled yn gyfrifol am wyth campws: Caergybi, Llangefni, Bangor, Parc Menai a Chaernarfon yng Ngholeg Menai a champysau Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon, Pwllheli a Dolgellau, a bydd yn dechrau ar ei swydd yn ystod yr haf.

Pob hwyl i Aled yn ei swydd, ac i Linda ar ei hymddeoliad.

Cafodd y swydd hon ei hysbysebu ar Golwg360.

Yr Eglwys yng Nghymru

Cyfarwyddwr Astudiaethau Caplaniaeth

Dyddiad cau: Mai 10
Ombwdsmon Cymru

Swyddog Arweiniol Data

Dyddiad cau: Mai 10
Golwg Cyf 

Swyddog Prosiect Ymbweru Bro  (ardal Wrecsam) 

Dyddiad cau: Mai 13
Menter a Busnes

Crëwr Cynnwys Digidol

Dyddiad cau: Mai 7
Llywodraeth Cymru

Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 26
Prifysgol Bangor

Tiwtor Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg

Dyddiad cau: Mai 7
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Rheolwr Aelodaeth

Dyddiad cau: Mai 3
Tinopolis

Peiriannydd

Dyddiad cau: Mai 6
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Seicolegydd Addysg Cyfrwng Cymraeg

Dyddiad cau: Mai 8
Undeb Bedyddwyr Cymru

Cydlynydd Corfforaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Dyddiad cau: Ebrill 29

Cylchlythyr